Dydd Mercher, 26 Ebrill, 2.00pm
Llyfrgell Wrecsam
AM DDIM
Bydd ein hen gyfaill Dave McCall (yr awdur David Ebsworth) yn sôn am y llawlyfr newydd sydd wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer ymwelwyr sy’n dymuno dysgu am hanes rhyfeddol Wrecsam wrth grwydro o amgylch y ddinas, ac yn cynnwys ugain o gyrchfannau gwerth chweil yn ogystal â chasgliad o deithiau cerdded hanesyddol sy’n mynd o ganol y ddinas. Bydd yr holl elw o werthu’r llyfryn bendigedig hwn yn mynd at yr Ŵyl Eiriau, a beth am alw heibio i glywed rhai o’r hanesion bendigedig a allai fod yn newydd i chi?