Pan oeddwn yn athrawes newydd gymhwyso, cymerais ran yn Niwrnod Rhyngwladol y Llyfr cyntaf erioed. Bryd hynny, roedd y diwrnod yn cael ei gynnal ar ben-blwydd Shakespeare (23 Ebrill). Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau o ran beth ddylai pobl ei wisgo, ac roedd pawb yn dod mewn gwisgoedd wedi eu taflu at ei gilydd, wedi eu gwneud â llaw neu eu hailddefnyddio.
Gwisgais y ffrog roedd fy mam wedi ei gwneud i mi i fynd i ddawns y chweched, ac es fel Cinderella. Mae’r un ffrog wedi cael ei defnyddio ers hynny fel gwisg Queen of Hearts ar gyfer Diwrnod y Llyfr ar y thema Alys yng Ngwlad Hud. A yw’r lliwiau’n cyd-fynd yn berffaith? Nac ydyn. Oes ots? Nac oes.
Dros y blynyddoedd rydw i wedi gwisgo gwisgoedd sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd ar hap yn cynnwys Cruella de Vil, The Elves and Shoemaker, Sleeping Beauty and Aliens Love Underpants. Mae fy masgotiaid dweud stori ffyddlon, Lamby a Flossie hefyd wedi cymryd rhan gyda gwisgoedd sy’n cyd-fynd â fy rhai i. Doedd yr un ohonynt yn ddrud; rydw i wedi gwario tua £20 i gyd yn ystod yr holl flynyddoedd rydw i wedi bod yn gwisgo ar gyfer Diwrnod y Llyfr. Y peth pwysig yw mai’r llyfr sy’n ganolog bob tro.
Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, mae Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr yn raddol wedi dod yn Wythnos Ryngwladol y Llyfr ac mae ysgolion wedi bod yn gwahodd awduron, storïwyr, beirdd, darlunwyr ac ati i ymweld i ysgogi ac annog darllenwyr ac ysgrifenwyr y dyfodol. Rydw i’n cytuno’n llwyr. Gall llyfrau agor cymaint o gyfleoedd yn ogystal â bod yn ddihangfa wych ac yn llesol i iechyd meddwl.
Ond, fel eraill, rydw i wedi dod braidd yn bryderus bod y pwyslais wedi symud oddi wrth y llyfrau. I rai, y wisg yw’r peth hollbwysig. Ac fel arfer, un sydd wedi ei phrynu. Nid yn unig mae hyn yn ddrud i deuluoedd, yn enwedig os oes mwy nag un plentyn, ond mae hefyd yn cael gwared ar beth o’r hwyl a’r dychymyg. Mae gwneud gwisg (ac rydw i’n golygu dod o hyd i beth sydd gennych eisoes yn y tŷ a’i addasu), yn gallu annog trafodaethau am y llyfr, y cymeriad a pam eu bod wedi dewis y cymeriad hwnnw a mwy.
Mae rhai ysgolion yn symud oddi wrth wisgoedd yn gyfan gwbl ac yn gwahodd plant i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr mewn ffyrdd eraill. Ffyrdd sydd wir yn rhoi’r llyfr wrth wraidd popeth.
Eleni ar Wythnos Ryngwladol y Llyfr, rwyf mewn tair ysgol wahanol ble nad oes gwisgoedd, ac ysgol sydd â thema sy’n hawdd iawn ymdopi â hi a’i chreu – Ble mae Wally?
Rydw i’n dal wrth fy modd yn gwisgo fel cymeriadau, mae’n hwyl. Ac rydw i wrth fy modd yn dod o hyd i wisgoedd tebyg i’r ŵyn, ond wedi dweud hynny, y llyfr yw’r brenin (neu’r frenhines) ac felly ddylai hi fod.
Sut bynnag y byddwch yn treulio Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr, rydw i’n gobeithio y bydd yn llawn straeon ac antur fydd wrth eich bodd.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld i gyd ar 22 Ebrill yn Llyfrgell Wrecsam ar gyfer y digwyddiad dweud straeon Carnifal Geiriau.
Jude Lennon, Little Lamb Publishing
Noddwr Carnifal Geiriau Wrecsam
www.littlelambpublishing.co.uk