Dw i’n treulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod yn llofruddio pobl. Ddim yn llythrennol wrth gwrs, dim ond ar y tudalennau. Dw i’n awdur dwy gyfres drosedd sydd wedi’u lleoli yn India, ac sydd wedi ennill sawl gwobr. Cafodd y gyntaf The Unexpected Inheritance of Inspector Chopra, sydd wedi’i lleoli yn Mumbai heddiw, ei dewis gan The Sunday Times fel un o’r 40 nofel drosedd orau sydd wedi’u cyhoeddi rhwng 2015 a 2020. Yn 2021 enillodd Midnight at Malabar House, fy nofel drosedd hanesyddol gyntaf, wobr Historical Dagger y Crime Writers Association a chyrraedd rhestr fer Theakston’s Old Peculier Crime Novel of the Year. Cefais fy ngeni yn Lloegr ond treuliais ddegawd yn gweithio yn India. Dw i hefyd yn cyd-gyflwyno podcast ffuglen droseddau, The Red Hot Chilli Writers.
Ychydig flynyddoedd yn ôl cefais wahoddiad i siarad yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam. Doeddwn i erioed wedi bod o’r blaen, ond bu i mi ddarganfod tref gyda hanes diddorol a rhyfeddol. Roeddwn i wedi fy nharo’n arbennig gan fedd Elihu Yale, y mae’r brifysgol Americanaidd wedi’i enwi ar ei ôl, a weithiodd yn India i’r British East India Company. Gan gofio bod fy nghyfres Malabar House yn archwilio’r Raj a’r cyfnod yn union ar ôl hynny, gwelais fy hun yn rhyfeddu at fywyd Yale – a’r beddargraff godidog ar ei fedd!
Yn yr ŵyl roedd yn bleser gen i gyflwyno fy sgwrs yn y llyfrgell fwyaf rhyfeddol erioed – a heb lyfrgelloedd fyswn i ddim yn awdur heddiw; ychydig iawn o bres oedd gennym ni pan oeddwn i’n blentyn ac roedd fy nad yn gwrthod cefnogi’r syniad o dalu am lyfrau y mae rhywun wedi’u dyfeisio….
Mae’n bleser gen i fod yn noddwr yr ŵyl a gwn y bydd yn parhau â’r traddodiad gwych o wahodd cymysgedd arbennig o siaradwyr i’ch diddanu chi. Dw i’n gobeithio dychwelyd fy hun yn fuan! Yn y cyfamser, mae croeso i chi roi cynnig ar un o’m llyfrau. Fy llyfr diweddaraf yw The Lost Man of Bombay sy’n sôn am ddyn gwyn sy’n cael ei ganfod yn farw yn yr Himalayas gydag ond llyfr nodiadau sy’n cynnwys cliwiau dirgel…. meddai’r Times: “If only all period procedurals were as good as this!”