Dydd Mawrth, 25 Ebrill, 7.00yp
Llyfrgell Wrecsam
£10
Mae Tim Weaver wedi ysgrifennu tair ar ddeg o nofelau, gan gynnwys straeon dirgel David Raker, You Were Gone, No One Home a’i nofel boblogaidd eleni, The Blackbird. Detholwyd ei lyfrau ar gyfer Clwb Llyfrau Richard a Judy ddwywaith, bu ar restr fer ar gyfer Gwobr Lyfrau Genedlaethol ac fe’i henwebwyd ar gyfer gwobr Dagger in the Library y Gymdeithas Awduron Ditectif a gwobrau Steel Dagger Ian Fleming. Mae Tim wrthi’n brysur hefyd yn datblygu cyfres deledu wreiddiol ar y cyd ag un o’r timau drama mwyaf blaenllaw ac uchel eu parch yn y Deyrnas Gyfunol.














