Pan roeddwn i’n 10 mlwydd oed, dywedodd fy athrawes ysgol gynradd wrth y dosbarth, “Rydw i am i chi ysgrifennu stori heddiw. Nid oes rheolau; dim geiriau arbennig sydd angen i chi ddefnyddio, na gramadeg penodol, dim ond ymarfer. Dim ond ysgrifennu stori.”
Efallai nad oedd ganddi gynllun gwers ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Wedi dweud hynny, roedd yn wahoddiad rhy dda i’w golli.
Rydw i’n cofio’r stori ysgrifennais i’r diwrnod hwnnw. Roedd yn sôn am ferch ifanc yn teithio i blaned arall, lle’r oedd pryfed cop mawr a oedd yn sownd i’w hwyneb.
Ie, rydw i’n gwybod.
Dywedodd yr athrawes ei bod yn hoffi’r stori, yn hytrach a mynnu bod fy rhieni yn dod am sgwrs i ofyn pa fath o ffilmiau roeddwn wedi bod yn gwylio. Roedd yn ddifyr. Roedd hi’n haeddu cael ei darllen.
O’r foment honno, roeddwn i’n awdur. Fe wnaeth ei brwdfrydedd danio sbarc. Fe wnaeth yr ysgol honno, wedi’i chuddio ar waelod dyffryn ger Wrecsam, aros gyda mi hefyd. Roedd yn rhan o fy nofel ddiweddaraf ar gyfer plant, The Blackthorn Branch.
Felly pan wnaeth Prifysgol Caerhirfryn gynnig cyllid i mi gydweithio gyda Charnifal Geiriau Wrecsam, roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau rhoi cyfle i awduron – hen ac ifanc – i deimlo’r hapusrwydd o rannu eu straeon hefyd.
Fe wnaethom benderfynu cynnal cyfres o weithdai dros y Pasg, lle’r oedd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i archwilio eu breuddwydion, dymuniadau ac atgofion o’r lleoedd a oedd o bwys iddynt. Byddant yn troi’r rhain yn gerddi neu straeon byrion.
Roedd y tair sesiwn yn wych. Daeth tua 50 o bobl, ac o’r rheiny, roedd sawl un oedd ond wedi dod i hebrwng eu plant yn canfod eu hunain gyda beiro yn ei llaw, yn dychmygu sut beth fyddai camu drwy borth neu lannerch hudol. Yn y sesiwn oedolion, roedd cerddi am anwyliaid – rhai yn bell a rhai yn yr ystafell – a ddaeth â deigryn i’r llygad pan gawsant eu darllen allan.
Ond, nid oeddwn eisiau stopio yno.
Ers y pandemig, mae byd gwaith wedi symud ar-lein yn fwy nag erioed. Felly, roeddwn i am roi profiad i gyfranogwyr o weithio yn y cwmwl, gyda golygydd, i fireinio a rhoi sglein ar eu darn.
Yn ffodus, roedd Prifysgol Caerhirfryn yn gallu cefnogi cost Golygydd, a chyhoeddiad y flodeugerdd yn dilyn hynny. Fe weithiom ni am chwe wythnos, yn anghydamseredig, gyda’r awduron yn dod yn ôl ar-lein i newid llinell neu gymeradwyo cywiriad; awgrymodd y Golygydd fân newidiadau neu ofyn am eglurhad, i’w gwneud y darnau gorau posib. Roeddwn wrth fy modd fod pob awdur a ddaeth i’r sesiwn, wedi parhau ar-lein, ni wnaethom ni golli unrhyw un wrth i ni symud i’r byd technolegol!
O’r pwynt hwnnw, cafodd y llawysgrif glawr ac fe’i hanfonwyd i’w hargraffu. Pan ddechreuais, roddwn eisiau’r cyfranogwyr deimlo’r wefr o weld eu geiriau mewn print, i wybod eu bod wedi crefftio rhywbeth difyr a oedd yn haeddu cael ei darllen. Rwy’n gobeithio bod y flodeugerdd wedi rhoi hynny iddynt.
Rydw i wedi clywed gan yr awduron ar ôl iddynt gasglu eu copïau personol o’r llyfr. Dywedodd y bobl ifanc bethau fel, “Roedd yn brofiad anhygoel” a “byddwn yn gwneud yr holl beth eto”. Dywedodd un rhiant bod ei mab wedi mynd ymlaen i ysgrifennu straeon, a dywedodd un arall bod ei merch yn gallu siarad am ei cholled ar ôl ysgrifennu am ei phrofedigaeth ddiweddar.
Dywedodd un o’r rhieni bod y profiad wedi bod yn “werthfawr”, ac mae un arall yn bwriadu dechrau ar gwrs ysgrifennu creadigol yn ddiweddarach eleni.
Mae straeon, eu hysgrifennu, eu rhannu, wedi dod â ni ynghyd am ychydig eleni.
Ni allaf fod yn fwy balch o’r awduron tu ôl i’r llyfr, Straeon Mawr, Ysgrifennwyd yn Wrecsam.
Diolch anferthol i:
Ŵyl Geiriau Wrecsam
Prifysgol Caerhirfryn
Y Llyfrgellwyr a gynhaliodd y sesiynau gwych
A’r cyfranogwr anhygoel.
Mae Elen yn awdur i bobl ifanc. Gallwch ganfod rhagor am ei gwaith ar www.elencaldecott.com