Ymunwch â’r gweithdy ysgrifennu hwn am gyfle cyffrous i weld eich gwaith wedi’i argraffu. Mae Elen Caldecott yn awdur llyfrau plant, darlithydd Ysgrifennu Creadigol ac yn noddwr Carnifal Geiriau Wrecsam. Yn y sesiwn 90 munud hon, bydd yn annog cyfranogwyr i ddechrau ysgrifennu cerdd neu stori wedi’i hysbrydoli gan Wrecsam a’r fro. O’r dechreuad hwn, bydd eich darn yn cael ei olygu (gyda’ch cymeradwyaeth) i’w gynnwys mewn blodeugerdd argraffedig. Bydd pob cyfranogwr yn derbyn copi o’r casgliad gorffenedig am ddim.
I gymryd rhan, dylai cyfranogwyr gael mynediad at gyfeiriad e-bost, cyfrifiadur a chysylltiad rhyngrwyd. I blant, dylai’r cyfeiriad e-bost hwnnw fod yn un rhiant neu ofalwr. Bydd Elen yn cysylltu â chi cyn ac ar ôl y digwyddiad, trwy e-bost, i esbonio sut y bydd y broses olygu’n gweithio. Trwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Brifysgol Lancaster.
Dyddiadau:
Dydd Sadwrn, 1 Ebrill, Llyfrgell Cefn Mawr, amser i’w gadarnhau 10:30am – 12pm
Teuluoedd. Addas i blant 7 oed+ a’u rhieni/gofalwyr (mae croeso mawr iddyn nhw ymuno hefyd)
Dydd Sadwrn, 15 Ebrill, Llyfrgell Wrecsam, amser i’w gadarnhau 10:30am – 12pm
Oedolion (dylai cyfranogwyr fod yn 16 oed+)
Dydd Sadwrn, 22 Ebrill, Llyfrgell Brynteg, amser i’w gadarnhau 10:30am – 12pm
Teuluoedd. Addas i blant 7 oed+ a’u rhieni/gofalwyr (mae croeso mawr iddyn nhw ymuno hefyd)










