Dydd Iau, 27 Ebrill, 5.00yp
Llyfrgell Wrecsam
£6
Ymunwch â Sophie (cyfathrebwr gwyddonol sy’n ysgrifennu i BBC Wildlife, Countryfile, y New Scientist a’r Guardian) am sgwrs ynglŷn â’i thaith o amgylch y Deyrnas Gyfunol yn chwilio am ddeg o rywogaethau prin a fedrai ddiflannu’n llwyr erbyn 2050 oherwydd newid hinsawdd – dyma’r cefndir i’w llyfr bendigedig, Forget Me Not. Ar ei thaith carbon-isel o amgylch Prydain fe ddaeth i Gymru’n chwilio am forwellt ar hyd arfordir Eryri a llamhidyddion ym moroedd Sir Benfro. Ond mae neges Sophie hefyd yn alwad i weithredu, ac fel llawer o’r genhedlaeth filflynyddol, mae hi’n benderfynol o fynnu ymatebion i newid hinsawdd a fedrai, wedi’r cyfan, achub y rhywogaethau hyn a rhai eraill.
