“Eryri – y lleoliad perffaith ar gyfer Noir Cymreig” gan Simon McCleave
‘It was winter and the rugged hills, valleys and lakes of Snowdonia were snowbound and bleak. This was a landscape that beat to the drum of Arthurian legend. The pounding heart of ancient Wales – a land of folklore and of myth … Llyn Llydaw was dark, deep, and utterly still. Carved into the flanks of Snowdon, the lake was long and thin and had formed in a cwm, a glaciated valley, about one third of the way up the mountain. The valley was believed to be the final resting place of Arthur, King of Britons. The site where a weary, dying King Arthur instructed Sir Bedevere to throw Excalibur to the porcelain hand of the Lady of the Lake. An area of immeasurable power and myth.”
(Detholiad o: “THE SNOWDONIA KILLINGS: A DI Ruth Hunter Crime Thriller Book #1” gan Simon McCleave
Fel brodor o Dde Llundain, mae pobl yn aml yn gofyn i mi, ‘Pam wyt ti’n ysgrifennu am Eryri?’ Mae’n gwestiwn digon teg. O ran lleoliadau, chewch chi ddim dau le sy’n fwy gwahanol na De Llundain ac Eryri. Ond yn fy nghyfres drosedd am y Ditectif Ruth Hunter, dyna’r pwynt.
Cyn i mi fynd ymhellach, dylwn ddweud bod gen i rywfaint o sail i ddefnyddio Eryri. Ugain mlynedd yn ôl, fe briodais i Gymraes hardd, ac ar ôl ychydig flynyddoedd o fywyd yn Llundain, fe symudom ni i Ogledd Cymru i fagu teulu. Roedd hynny dros ddegawd yn ôl. Mae Eryri bellach ar stepen y drws yn llythrennol i mi ac wrth i mi gynllunio cyfres o nofelau trosedd, roedd yn lleoliad oedd yn rhoi ei hun yn llwyr i’r straeon. A dweud y gwir, roedd mor addas, bu’n rhaid i mi edrych sawl gwaith i wneud yn siŵr nad oedd wedi’i ddefnyddio’n barod. Yn ffodus, roedd yn llechen lân.
Fel pob lleoliad da i adrodd straeon, mae Eryri wedi dod yn gymeriad ynddo’i hun. Fel tirlun a thirwedd, mae’r cyfan yma. Cribau bygythiol y mynyddoedd dan eira sy’n crafu’r awyr. Llynnoedd mawr a gafodd eu ffurfio yn oes yr iâ, a thraethau creigiog, stormus sy’n ffinio â Môr Iwerddon. Ar ben hynny, mae gan yr ardal awyrgylch hudol lle mae chwedlau a hanes yn asio i greu naratif tywyll a grymus ar gyfer y 900 milltir sgwâr sy’n ffurfio parc cenedlaethol mwyaf Prydain. Mae’r Mabinogion, y casgliad o chwedlau am y goruwchnaturiol â gwreiddiau yn Eryri, dros 1,000 o flynyddoedd oed. Felly, fel lleoliad sy’n ddramatig ei awyrgylch ac yn llawn ystyr, mae Eryri yn cyd-fynd yn berffaith â thraddodiadau a’r hyn sy’n nodweddiadol o ffuglen noir.
Yn symud i’r ardal, mae’r Ditectif Arolygydd Ruth Hunter, brodor o Dde Llundain (a, oes, mae elfen fywgraffiadol yma!), sy’n dioddef o flinder gwaith llwyr ar ôl degawdau o ymdrin â llofruddiaethau a llanast rhwng tyrrau a blociau concrid Peckham. Bu’n mwynhau dod i Eryri ar wyliau pan oedd yn blentyn. Mae Ruth yn trosglwyddo o Heddlu Llundain i Heddlu Gogledd Cymru, yn hyderus y bydd ei dyddiau bellach yn llawn dim mwy na dwyn defaid neu dractor neu ddau. Wrth gwrs, fel arall yn llwyr y mae hi. Mae troseddau yng Ngogledd Cymru mor greulon, ingol a chymhleth ag unrhyw le arall. Ac ni fyddai’n gyfres drosedd dda iawn gyda dim byd mwy dramatig na thrwydded gwn wedi dod i ben.
Yn union fel yr oedd gen i syniadau am sut fyddai bywyd yng Ngogledd Cymru, mae gan DI Ruth Hunter hefyd. Mae’n sylweddoli’n fuan bod tîm yr Adran Ymchwiliadau Troseddol mae’n ei arwain yn wahanol iawn i’r josgyns plwyfol roedd wedi’u dychmygu. Mae’r ditectifs mor finiog, greddfol a gofalgar ag unrhyw un a welodd yn Heddlu Llundain. Yn fwy felly, mewn sawl ffordd. A chymaint ag oeddwn i, mae Ruth cyn hir wrth ei bodd yng nghwmni’r bobl gynnes a chyfeillgar, a’r rhan fwyaf ohonynt yn gwerthfawrogi gonestrwydd, teulu a chymuned yn fwy na smaldod, statws a’r angen am ‘latte di-caff tenau’ ac afocado ar fara surdoes!
Wedi’i chyhoeddi yn 2020, mae The Snowdonia Killings wedi gwerthu dros 250,000 o gopïau ac wedi cyrraedd Rhif 1 yn Siart Amazon. Mae cyfres deledu yn seiliedig ar y llyfr yn cael ei datblygu ac i fod i ddechrau ffilmio yn 2023.
Dechrau bywyd newydd yn Eryri oedd breuddwyd DI Ruth Hunter erioed. Nes i lofruddiwr ciaidd ei droi’n hunllef llwyr.
Mae’r Ditectif Arolygydd Ruth Hunter yn byw gyda phoen diflaniad ei phartner, sy’n parhau’n ddirgelwch heb ei ddatrys. Ar fin troi’n hanner cant, mae’r swyddog heddlu profiadol yn cyfnewid strydoedd drwg Llundain am fywyd mwy heddychlon yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Ond prin wedi setlo i’w swydd newydd gyda Heddlu Gogledd Cymru mae Ruth cyn i gorff dynes wedi’i llofruddio’n greulon gael ei ddarganfod…gyda symbolau rhyfedd wedi’u cerfio ar ei chroen. Wrth ymuno â dirprwy swyddog pengaled, mae Ruth yn cael trafferth dileu unrhyw un o restr hir o rai dan amheuaeth. Pan mae person arall yn cael ei ddarganfod wedi’i lofruddio gyda’r un marciau od, mae’n gorfodi Ruth i feddwl eto am yr ymchwiliad.
Yw’r gallu gan Ruth i ddatrys yr achos cyn i’r llofruddiwr daro eto?
The Snowdonia Killings yw’r llyfr cyntaf yng nghyfres nofelau trosedd cyffrous DI Ruth Hunter ac mae wedi’i lleoli yn harddwch Eryri – ardal oesol o chwedlau a straeon. Os ydych chi’n hoffi gweithdrefnau heddlu tywyll, cymeriadau seicolegol gymhleth a throeon cwbl annisgwyl, mae nofelau Simon McCleave yn siŵr o godi curiad eich calon.