Signing

Mae cyfathrebu gyda’n gilydd yn rhywbeth rydym ni’n ei wneud yn ddyddiol, a hynny fel arfer ar lafar – rhywbeth rydym ni’n ei gymryd yn ganiataol yn aml iawn. Ond mae llawer o bobl yn ein cymuned yn defnyddio dulliau cyfathrebu eraill, fel Saesneg â Chymorth Arwyddion / Iaith Arwyddo Prydain – ffurf ar gyfathrebu sydd â’i hiaith ei hun ac sydd fel rheol yn cael ei dysgu drwy gyrsiau a hyfforddiant a ddarperir i unigolion a sefydliadau. Ond hyd y gwyddom ni, nid yw’r iaith wedi’i haddysgu drwy ffurfio côr sy’n defnyddio caneuon i helpu pobl i ddysgu’r arwyddion.

Wedi’i ffurfio gan Dynamic (canolfan ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anableddau), gall pobl ifanc gydag anableddau, pa un ai ydynt yn derbyn gwasanaethau eraill gan Dynamic neu beidio, gofrestru, dysgu ac ymarfer iaith arwyddo yn defnyddio caneuon pop, roc, gwlad ac eraill mewn sesiynau rhyngweithiol llawn hwyl. Yn ogystal ag ymarfer arwyddion y caneuon hyn, maen nhw hefyd yn perfformio mewn digwyddiadau ar hyd a lled Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru. Eleni rydym ni’n ffodus iawn o gael y Singing Sensations yn perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam 2023 yn ystod y digwyddiad adrodd stori ddydd Sadwrn 22 Ebrill. Digwyddiad nad oes arnoch chi eisiau ei golli!

Blogiau Eraill

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Ydych chi’n hoffi llyfrau sy’n llawn o gymeriadau diddorol, plotiau twyllodrus a diweddglo syfrdanol? Os mai’r ateb yw ‘YDW’, mae’r digwyddiad hwn i chi! Dewch i gwrdd â Harriet Tyce, awdur y nofelau cyffrous seicolegol Blood Orange, The Lies You Told a’i chyfrol...

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Pan oeddwn yn athrawes newydd gymhwyso, cymerais ran yn Niwrnod Rhyngwladol y Llyfr cyntaf erioed.  Bryd hynny, roedd y diwrnod yn cael ei gynnal ar ben-blwydd Shakespeare (23 Ebrill). Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau o ran beth ddylai pobl ei wisgo, ac roedd pawb yn dod...

Bleak House

Bleak House

Yng Ngharnifal Geiriau Wrecsam y llynedd fe wnaethom arbrofi trwy ofyn i bobl ymuno â ni mewn gweithgaredd darllen hir o fis Ionawr i fis Ebrill. Bu nofel ‘Middlemarch’ gan George Eliot yn boblogaidd iawn a chawsom lawer o hwyl yn ei thrafod mewn digwyddiad yn...