Dydd Sadwrn, 22 Ebrill, 5.30pm
Llyfrgell Wrecsam
AM DDIM
Wedi llwyddiant darllenathon clasuron y llynedd bydd darllenwyr Wrecsam yn rhoi cynnig ar her newydd yn 2023 – y gyfrol fwyaf hirfaith ond un gan Charles Dickens, Bleak House. Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ynglŷn â’r clasur hwn yn ogystal â darlleniadau a chwis yng nghwmni’r podcastiwr Bookylicious, Paul Jeorrett.