Polisi Cwcis a Phreifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd
Dyma hysbysiad preifatrwydd Gŵyl Geiriau Wrecsam. Yn y ddogfen hon mae’r geiriau “ni” ac “ein” yn cyfeirio at Ŵyl Geiriau Wrecsam.
Cyflwyniad
- Hysbysiad yw hwn i roi gwybod i chi am ein polisi sy’n ymwneud â’r holl wybodaeth rydym yn ei chofnodi amdanoch. Mae’n nodi’r amodau y byddwn yn glynu atynt wrth brosesu unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch, neu y byddwch yn ei rhoi i ni. Mae’n cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi (“gwybodaeth bersonol”) a gwybodaeth na fyddai’n gwneud hynny. Yng nghyd-destun y gyfraith a’r hysbysiad hwn, mae “prosesu” yn golygu casglu, storio, trosglwyddo neu weithredu fel arall ar wybodaeth.
- Yn anffodus, os nad ydych yn fodlon gydag un neu fwy o’r pwyntiau isod, eich unig ddewis yw gadael ein gwefan ar unwaith.
- Rydym o ddifrif ynglŷn â gwarchod eich preifatrwydd a’ch cyfrinachedd. Rydym yn deall bod hawl gan bob ymwelydd â’n gwefan i wybod na fydd eu data personol yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben nad ydynt yn ei fwriadu, ac ni fydd trydydd parti yn cael gafael ar eu gwybodaeth yn ddamweiniol.
- Rydym yn ymrwymo i gadw cyfrinachedd yr holl wybodaeth fyddwch yn ei darparu i ni, ac yn gobeithio y byddwch yn ymateb i hynny yn yr un modd.
- Mae’n polisi yn cydymffurfio â chyfraith y DU o’i gweithredu felly, gan gynnwys yr hyn sy’n ofynnol gan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR).
- Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddweud wrthych am eich hawliau a’n rhwymedigaethau tuag atoch chi o safbwynt prosesu a rheoli eich data personol. Rydym yn gwneud hynny nawr, drwy ofyn i chi ddarllen yr wybodaeth a ddarperir yma HYPERLINK “http://www.knowyourprivacyrights.org/”
- Ar wahân i’r hyn a nodir isod, ni fyddwn yn rhannu, gwerthu na datgelu unrhyw wybodaeth a gasglwyd drwy ein gwefan i unrhyw drydydd parti.
Y seiliau y byddwn yn dibynnu arnynt i brosesu gwybodaeth amdanoch
Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni bennu o dan ba un o’r chwe sail diffiniedig y byddwn yn prosesu amrywiol gategorïau o’ch gwybodaeth bersonol, a rhoi gwybod i chi am sail pob categori.
Os nad yw’r sail ar gyfer prosesu eich data personol yn berthnasol bellach yna byddwn yn stopio prosesu eich data ar unwaith.
Os yw’r sail yn newid yna os bydd yn ofynnol o dan y gyfraith byddwn yn rhoi gwybod i chi am y newid ac o unrhyw sail newydd yr ydym wedi ei ddefnyddio i benderfynu y gallwn barhau i brosesu’ch gwybodaeth.
- Gwybodaeth rydym yn ei phrosesu gan fod gennym rwymedigaethau cytundebol â chi
Pan fyddwch yn creu cyfrif ar ein gwefan, yn prynu cynnyrch neu wasanaeth gennym ni, neu yn cytuno mewn ffordd arall i’n telerau ac amodau, ffurfir contract rhyngom.
Er mwyn cyflawni’n rhwymedigaethau o dan y contract hwnnw rhaid i ni brosesu’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni. Gall peth o’r wybodaeth hon fod yn wybodaeth bersonol.
Gallwn ei defnyddio er mwyn:
-
- 1. Gwirio pwy ydych chi at bwrpas diogelwch
- 2 Gwerthu cynnych i chi
- 3 Darparu ein gwasanaethau i chi
- 4 Rhoi awgrymiadau a chyngor i chi ar gynnyrch, gwasanaethau a sut i ddefnyddio ein gwefan i’r eithaf
Rydym yn prosesu’r wybodaeth hon ar y sail bod contract rhyngom, neu eich bod wedi gwneud cais i ni ddefnyddio’r wybodaeth cyn gallwn ymrwymo i gontract cyfreithiol.
Yn ogystal, mae’n bosib y byddwn yn cydgrynhoi’r wybodaeth hon yn gyffredinol gan ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth ddosbarth, er enghraifft er mwyn monitro ein perfformiad o safbwynt gwasanaeth penodol rydym yn ei ddarparu. Os byddwn yn ei defnyddio at y pwrpas hwn, ni fydd modd eich adnabod fel unigolyn.
Byddwn yn parhau i brosesu’r wybodaeth hon hyd nes y bydd y contract rhyngom yn dod i ben neu yn cael ei ddiweddu gan un o’r ddau barti o dan delerau’r contract.
-
- Gwybodaeth rydym yn ei phrosesu gyda’ch caniatâd
Drwy weithredoedd penodol pan nad oes perthynas gontractiol rhyngom fel arall, er enghraifft pan fyddwch yn pori drwy’n gwefan neu’n gofyn i ni am fwy o wybodaeth am ein busnes, ein cynnyrch a’n gwasanaethau, rydych yn rhoi eich caniatâd i ni brosesu gwybodaeth a all fod yn wybodaeth bersonol.
Ble bynnag bo’n bosib, ein nod yw cael eich caniatâd penodol i brosesu’r wybodaeth hon, er enghraifft drwy ofyn i chi gytuno â’n defnydd o gwcis.
Weithiau gallech roi eich caniatâd yn oblygedig i ni, er enghraifft pan fyddwch yn anfon neges e-bost y byddai’n rhesymol i chi ddisgwyl i ni ymateb iddi.
Ar wahân i lle rydych wedi caniatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth at ddiben penodol, ni fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth mewn unrhyw ffordd sy’n golygu y gallech gael eich adnabod. Mae’n bosib y byddwn yn cydgrynhoi’r wybodaeth hon yn gyffredinol gan ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth ddosbarth, er enghraifft er mwyn monitro ein perfformiad o safbwynt tudalen benodol ar ein gwefan.
Os ydych wedi rhoi caniatâd penodol i wneud hynny, o dro i dro mae’n bosib y byddwn yn anfon eich enw a’ch gwybodaeth gyswllt i bartneriaid penodol yr ydym yn eu hystyried yn rai allai ddarparu gwasanaethau neu wasanaethau y byddech o’r farn eu bod yn ddefnyddiol.
Byddwn yn parhau i brosesu eich gwybodaeth ar y sail hon tan i chi dynnu eich caniatâd yn ôl neu y gellir tybio yn rhesymol nad yw’ch caniatâd yn bodoli bellach.
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy roi gwybod i ni wrexcarnival@gmail.com. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud hynny, mae’n bosib na fyddwch yn gallu defnyddio’n gwefan na’n gwasanaethau wedyn.
-
- Gwybodaeth rydym yn ei phrosesu ar bwrpas buddiant cyfreithiol
Mae’n bosib y byddwn yn prosesu gwybodaeth ar y sail bod buddiant cyfreithiol, un ai i chi neu i ni, o wneud hynny.
Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth ar y sail hon, byddwn yn gwneud hynny ar ôl ystyried y canlynol yn ofalus:
- A ellid cyflawni’r un amcan drwy ddulliau eraill
- A allai prosesu (neu beidio prosesu) achosi niwed i chi
- A allech ddisgwyl i ni brosesu eich data, ac a fyddech felly yn ei ystyried yn rhesymol i wneud hynny
Er enghraifft, mae’n bosib y byddwn yn prosesu eich data ar y sail hon at ddibenion:
- Cadw cofnodion er mwyn gweinyddu Gŵyl Geiriau Wrecsam yn y dull angenrheidiol a chywir
- Ymateb i ohebiaeth wirfoddol gennych chi yr ydym yn credu y byddech yn disgwyl ymateb iddo
- Gwarchod a datgan hawliau cyfreithiol unrhyw barti
- Yswirio yn erbyn neu gael gwybodaeth broffesiynol sydd ei angen er mwyn rheoli risg yn ymwneud â Gŵyl Geiriau Wrecsam
- Gwarchod eich buddiannau os ydym yn credu bod gennym ddyletswydd i wneud hynny
- Gwybodaeth rydym yn ei phrosesu gan fod gennym rwymedigaethau cyfreithiol â chi
Rydym yn ddarostyngedig i’r gyfraith fel pawb arall. Weithiau, rhaid i ni brosesu eich gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth statudol.
Er enghraifft, efallai y bydd yn ofynnol i ni roi gwybodaeth i awdurdodau cyfreithiol os ydynt yn gofyn am hynny neu os oes awdurdodiad priodol ganddynt fel gwarant chwilio neu orchymyn llys.
Gall hyn gynnwys eich gwybodaeth bersonol.
Defnydd penodol o wybodaeth rydych yn ei darparu i ni
-
- Gwybodaeth a ddarperir ar y ddealltwriaeth y bydd yn cael ei rhannu gyda thrydydd parti
Mae’n gwefan yn eich caniatáu i bostio gwybodaeth y gellir ei darllen, ei chopïo, ei lawrlwytho, neu ei defnyddio gan bobl eraill.
Er enghraifft:
-
- 1 Postio neges ar ein fforwm
- 2 tagio delwedd
- 3 clicio ar eicon ger neges ymwelydd arall i gyfleu eich bod yn cytuno, yn anghytuno, neu’n diolch
Wrth bostio gwybodaeth bersonol, dylech fodloni eich hun o safbwynt lefel preifatrwydd pawb a allai ei defnyddio.
Nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon yn benodol ar wahân i ganiatáu iddi gael ei arddangos neu ei rhannu.
Rydym yn ei storio, ac yn cadw’r hawl i’w defnyddio yn y dyfodol mewn unrhyw fodd y byddwn yn ei benderfynu.
Unwaith y bydd eich gwybodaeth yn y parth cyhoeddus, does dim rheolaeth gennym ni dros beth allai trydydd parti unigol ei wneud â’r wybodaeth. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros eu gweithredoedd ar unrhyw adeg.
Os yw eich cais yn rhesymol ac nad oes sail gyfreithiol i ni ei chadw, yna yn ôl ein disgresiwn ni, mae’n bosib y byddwn yn cytuno i’ch cais i ddileu gwybodaeth bersonol yr ydych wedi ei phostio. Gallwch wneud cais drwy gysylltu â ni wrexcarnvial@gmail.com
-
- Cwynion am gynnwys ar ein gwefan
Cyfrwng cyhoeddi yw’n gwefan. Gall unrhyw un gofrestru ac yna gyhoeddi gwybodaeth am ei hun, neu unigolyn arall.
Nid ydym yn cymedroli nac yn rheoli beth sy’n cael ei bostio.
NEU
Rydym yn ceisio cymedroli cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, ond ni allwn bob amser wneud hyn cyn gynted ag y mae’r cynnwys wedi ei gyhoeddi.
Os byddwch yn cwyno am unrhyw gynnwys ar ein gwefan, byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn.
Os ydym yn teimlo fod cyfiawnhad dros y gwyn neu os ydym yn credu bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni, byddwn yn gwaredu’r cynnwys tra byddwn yn ymchwilio.
Mae rhyddid i lefaru yn hawl sylfaenol, felly rhaid i ni benderfynu hawl pwy fydd yn cael ei rwystro; eich hawl chi, neu hawl y person wnaeth bostio’r cynnwys wnaeth eich tramgwyddo.
Os byddwn yn credu bod eich cwyn yn flinderus neu’n ddi-sail, ni fyddwn yn cyfathrebu â chi amdani.
-
- Gwybodaeth yn ymwneud â’ch dull talu
Ni fydd gwybodaeth talu fyth yn cael ei chymryd gennym ni na’i throsglwyddo i ni drwy’n gwefan nac fel arall. Nid oes gan ein gweithwyr na’n contractwyr unrhyw fynediad at y wybodaeth.
Ar bwynt talu, cewch eich holi i dalu drwy BACS neu cewch eich trosglwyddo i dudalen ddiogel ar wefan PayPal.
-
- Gwybodaeth am eich debyd uniongyrchol
Pan fyddwch yn cytuno i wneud trefniant debyd uniongyrchol, rydych yn rhoi cyfarwyddyd i’ch banc drosglwyddo arian i’n banc ni [enw’r banc]. Nid ydym yn derbyn eich manylion bancio nac yn cadw copi.
-
- Anfon neges
Pan fyddwch yn cysylltu â ni ar y ffôn, drwy’r wefan, neu drwy e-bost, byddwn yn casglu’r data rydych wedi ei roi i ni er mwyn i ni ateb gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Byddwn yn cadw eich cais a’n hymateb er mwyn cynyddu effeithlonrwydd Gŵyl Geiriau Wrecsam.
Rydym yn cadw gwybodaeth adnabyddadwy amdanoch gyda’ch neges, fel eich enw a’ch cyfeiriad e-bost er mwyn gallu olrhain ein dull o gyfathrebu gyda chi er mwyn darparu gwasanaeth o safon uchel i chi.
-
- Cwyno
Pan fyddwn yn derbyn cwyn, byddwn yn cofnodi’r holl wybodaeth rydych wedi ei rhoi i ni.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i ddatrys eich cwyn.
Os bydd angen i ni, yn rhesymol o ganlyniad i’ch cwyn, gysylltu ag unigolyn arall, mae’n bosib y byddwn yn penderfynu datgelu peth o’r wybodaeth o’ch cwyn wrth yr unigolyn hwnnw. Rydym yn gwneud hyn mor anaml â phosib, ond mater at ein disgresiwn ni yn unig yw a fyddwn yn rhoi gwybodaeth, ac os byddwn, pa wybodaeth fydd honno.
Mae’n bosib y byddwn hefyd yn crynhoi ystadegau yn dangos gwybodaeth a gafwyd o’r ffynhonnell hon er mwyn asesu lefel y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, ond nid mewn modd y gellid eich adnabod chi nac unrhyw unigolyn arall.
-
- Gwybodaeth gyswllt a phartneriaid busnes
Mae’n bosib y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni cyswllt ar rai tudalennau. Yn gyffredinol caiff y rhain eu gweini drwy’n partneriaid hysbysebu fel Amazon Affiliates neu rydym ni’n eu gweini drwy’n dulliau ein hunain.
Mae’n bosib y bydd dolenni cyswllt y gellir clicio arnynt yn cael eu harddangos fel URL gwefan fel hyn; www.amazon.co.uk neu fel dolen destun â theitl, fel teitl llyfr.
Gallai clicio ar unrhyw ddolenni cyswllt olrhain eich gweithredoedd drwy ddefnyddio cwci sydd wedi ei arbed ar eich dyfais. Gallwch ddarllen mwy am gwcis ar y wefan hon isod. Fel arfer cofnodir eich gweithredoedd fel atgyfeiriad oddi ar ein gwefan ni gan y cwci hwn. Fel arfer rydym yn cael comisiwn bach iawn am werthiant eitem, heb unrhyw gost i chi, os byddwch yn prynu rhywbeth oddi ar ein gwefan ai peidio.
Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn rydym yn awgrymu nad ydych yn clicio ar unrhyw ddolenni cyswllt sydd ar ein gwefan.
Defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei chasglu drwy systemau awtomatig pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan
-
- Cwcis
Ffeiliau testun bach yw cwcis sydd yn cael eu lleoli ar yriant caled eich cyfrifiadur gan eich porwr gwe pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw wefan. Maent yn caniatáu gwybodaeth a gesglir ar un wefan i gael ei storio tan fydd ei hangen ar un arall, gan alluogi gwefan i roi profiad personol i chi a rhoi ystadegau i berchennog y wefan am sut rydych yn ei defnyddio fel y gellir ei gwella.
Mae’n bosib y bydd rhai cwcis yn para am gyfnod penodol o amser, fel un diwrnod, neu hyd nes y byddwch wedi cau eich porwr. Mae eraill yn para am gyfnod amhenodol.
Gall gwybodaeth a ddarperir gan gwcis ein helpu i ddadansoddi proffil ein hymwelwyr, sydd o gymorth i roi profiad defnyddiwr gwell i chi.
Dim ond er mwyn ein cynorthwyo i wella’n gwefan yn barhaol a chynnal profiad pori da ar gyfer ein hymwelwyr y byddwn yn defnyddio cwcis.
Rydym yn defnyddio cwcis perfformiad sy’n ein galluogi i gyfri ymweliadau a ffynonellau traffig fel y gallwn fesur a gwella perfformiad ein safle. Maent yn ein helpu i wybod pa dudalennau yw’r mwyaf a’r lleiaf poblogaidd a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch y safle.
Cydgrynhoir yr holl wybodaeth a gesglir gan y cwcis ac felly mae’n ddienw.
Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics i grynhoi ystadegau ymwelwyr, fel faint o bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan, pa fath o dechnoleg neu ddyfais maent yn ei ddefnyddio, sydd o gymorth i ni nodi pryd nad yw’n gwefan yn gweithio fel y dylai ar unrhyw ddyfais), faint o amser mae ymwelwyr yn ei dreulio ar ein gwefan a pha dudalennau maent yn ymweld â nhw.
Mae amrywiol gwcis hefyd yn gysylltiedig â sianeli cyfryngau cymdeithasol sy’n eich galluogi i rannu cynnwys gyda’ch cysylltiadau.
Cwcis Trydydd Parti ar ein tudalennau
Nodwch y gallech sylwi ar rai cwcis nad ydynt yn gysylltiedig â ni wrth i chi ymweld â’n gwefan. Pan fyddwch yn ymweld â thudalen sydd â chynnwys wedi’i fewnblannu, er enghraifft YouTube, mae’n bosib y bydd cwcis o’r gwefannau hyn yn cael eu cyflwyno i chi. Nid ydym yn rheoli’r broses o ledaenu’r cwcis hyn. Gwiriwch y wefan trydydd parti am fwy o wybodaeth am y rhain.
Dylai’ch porwr gwe eich galluogi i ddileu unrhyw rai o’ch dewis. Dylai hefyd ganiatáu i chi atal neu gyfyngu ar eu defnydd.
Mae’n gwefan ni yn defnyddio cwcis. Cânt eu lleoli gan feddalwedd sy’n gweithredu ar ein gweinyddwyr, a gan feddalwedd a reolir gan unrhyw drydydd parti yr ydym yn defnyddio eu gwasanaethau.
Rydym yn defnyddio cwcis yn y ffyrdd canlynol:
-
- 1 i olrhain sut rydych yn defnyddio’n gwefan
- 2 i gofnodi a ydych wedi gweld negeseuon penodol rydym yn eu harddangos ar ein gwefan
- 3 i’ch cadw wedi mewngofnodi i’n safle
- 4 i gofnodi’ch atebion i arolygon a holiaduron ar ein safle pan fyddwch yn eu cwblhau
- 5 i gofnodi llinyn sgwrs yn ystod sgwrs fyw gyda’n tîm cymorth
Sut i ddileu neu reoli cwcis
Ni fydd y safle yn defnyddio cwcis i ddefnyddio gwybodaeth adnabyddadwy personol amdanoch. Fodd bynnag, os hoffech gyfyngu ar, neu atal cwcis sydd wedi eu gosod gan y wefan hon neu unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn drwy’r gosodiadau ar eich porwr. Gallwch ddarganfod mwy am wneud hyn drwy ddarllen www.youronlinechoicers.eu a http://allaboutcookies.org/manage-cookies/
-
- Dangosyddion personol o’ch gweithgarwch pori
Cofnodir ceisiadau gan eich porwr gwe i’n gweinydd ar gyfer tudalennau gwe a chynnwys arall ar ein gwefan. Nid ydym yn cofnodi yn bersonol, ond mae gweinyddion y wefan (Siteground.co.uk) a Google Analytics yn cofnodi gwybodaeth fel eich lleoliad daearyddol, eich darparwr gwasanaethau rhyngrwyd a’ch cyfeiriad IP. Mae’n bosib y bydd hefyd yn cofnodi gwybodaeth am y feddalwedd rydych yn ei ddefnyddio i bori’n gwefan, fel y math o gyfrifiadur neu ddyfais, a chydraniad sgrin.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon yn ei grynswth er mwyn asesu poblogrwydd y tudalennau gwe ar ein gwefan a sut rydym yn perfformio o safbwynt darparu cynnwys i chi.
Os ydym yn gwybod amdanoch o ymweliadau blaenorol o’i gyfuno â gwybodaeth arall, gallai’r data o bosib gael ei ddefnyddio i’ch adnabod yn bersonol, hyd yn oed os nad ydych wedi mewngofnodi i’n gwefan.
Datgelu a rhannu eich gwybodaeth
-
- Gwybodaeth rydym yn ei chael gan drydydd parti
Er nad ydym yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti (ac eithrio fel y nodir yn yr hysbysiad hwn), byddwn weithiau yn derbyn data sydd wedi ei wneud yn anuniongyrchol o’ch gwybodaeth bersonol gan unrhyw drydydd parti yr ydym yn defnyddio ei wasanaethau.
Er enghraifft:
Mailchimp.com
Book Funnel
-
- Hysbysebu trydydd parti ar ein gwefan
Nid ydym yn caniatáu unrhyw drydydd parti i hysbysebu ar ein gwefan.
-
- Mae’n bosib y bydd data yn cael ei brosesu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd
Caiff ein gwefannau eu gwesteio yn y DU.
Mae’n bosib y byddwn hefyd yn defnyddio gwasanaethau wedi eu hallanoli mewn gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd o dro i dro mewn agweddau eraill o’n busnes.
Felly gallai data a gafwyd y tu mewn i’r DU neu unrhyw wlad arall gael ei brosesu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Er enghraifft, mae peth o feddalwedd ein gwefan wedi ei datblygu yn Unol Daleithiau America neu Awstralia.
Er enghraifft:
Mailchimp.com
Book Funnel
Rydym yn sicrhau bod yr holl wasanaethau rydym yn eu defnyddio yn cydymffurfio â GDPR.
Mynediad at eich gwybodaeth eich hun
-
- Mynediad at eich gwybodaeth bersonol
- 1 Er mwyn cael copi o unrhyw wybodaeth nad yw’n cael ei darparu ar ein gwefan, gallwch anfon cais atom wrexcarnival@gmail.com
- 2 Ar ôl derbyn y cais, byddwn yn dweud wrthych pryd rydym yn disgwyl darparu’r wybodaeth i chi, ac a oes angen unrhyw ffi arnom am ei ddarparu.
- E. Gwaredu eich gwybodaeth
Os hoffech i ni waredu gwybodaeth adnabyddadwy bersonol oddi ar ein gwefan, gallwch gysylltu â ni atwrexcarnival@gmail.com
Gall hyn gyfyngu’r gwasanaeth y gallwn ei ddarparu i chi. Ni chaiff gwybodaeth Dan Gontract a Thrafodion Ariannol eu dileu gan eu bod yn angenrheidiol o dan gyfraith y DU ar gyfer archwilio a chyfrifo.
-
- Gwirio eich gwybodaeth
Pan fyddwn yn derbyn unrhyw gais i gael mynediad at, i olygu neu i ddileu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy, yn gyntaf byddwn yn cymryd camau rhesymol i wirio eich hunaniaeth cyn rhoi mynediad i chi neu weithredu fel arall. Mae hyn yn bwysig er mwyn diogelu eich gwybodaeth.
Materion eraill
-
- Plant yn defnyddio’r safle
- 1 Os ydych o dan 18 oed, cewch ddefnyddio’n gwefan gyda chaniatâd rhiant neu warcheidwad.
- Amgryptiad data a anfonwyd rhyngom
Rydym yn defnyddio Tystysgrifau Haenen Socedi Diogel (SSL) i wirio ein hunaniaeth i’ch porwr ac i amgryptio unrhyw ddata rydych yn ei roi i ni.
Pan fydd gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo rhyngom, gallwch wirio bod hynny yn cael ei wneud gan ddefnyddio SSL drwy edrych am symbol clo wedi’i gau neu nod ymddiriedaeth ym mar URL eich porwr neu eich bar offer.
-
- Sut gallwch gwyno
- 1. Os nad ydych yn hapus gyda’n polisi preifatrwydd neu os oes gennych gwyn dylech roi gwybod i ni drwy e-bost. Ein cyfeiriad e-bost yw wrexcarnival@gmail.com
- 2. Os nad yw anghydfod yn cael ei ddatrys yna gobeithiwn y gwnewch gytuno i’w ddatrys drwy ymgysylltu â ni yn ddidwyll mewn proses o gyfryngu neu gymrodeddu.
- 3 Os ydych yn anfodlon mewn unrhyw ffordd am sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir gwneud hyn yma: https://ico.org.uk/concerns/
- Cyfnod cadw data personol
Oni nodir yn wahanol yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, dim ond am y cyfnod sy’n ofynnol i ni y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol.
-
- 1 i ddarparu’r gwasanaethau rydych wedi holi amdanynt i chi;
- 2 i gydymffurfio gyda chyfreithiau eraill, gan gynnwys am y cyfnod sy’n ofynnol yn ôl ein hawdurdodau trethi;
- 3 i gefnogi hawliad neu amddiffyniad mewn llys
- 4 Ar gyfer archwiliad ariannol
- Cydymffurfio gyda’r gyfraith
Mae’n polisi preifatrwydd wedi ei gynhyrchu er mwyn cydymffurfio gyda chyfraith pob gwlad neu awdurdodaeth gyfreithiol yr ydym am wneud busnes ynddi. Os nad ydych yn credu ei fod yn bodloni cyfraith eich awdurdodaeth, hoffem glywed gennych.
Fodd bynnag, yn y pen draw, eich dewis chi yw a ddylech ddefnyddio ein gwefan ai peidio.
-
- Adolygu’r polisi preifatrwydd hwn
Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn o dro i dro pan fydd hynny’n angenrheidiol. Mae’r telerau sy’n berthnasol i chi wedi eu postio yma ar ein gwefan ar y diwrnod yr ydych yn defnyddio’n gwefan. Rydym yn eich cynghori i argraffu copi ar gyfer eich cofnodion.
Os oes gennych gwestiwn am ein polisi preifatrwydd, anfonwch e-bost at wrexcarnival@gmail.com