Dydd Llun, 24 Ebrill, 7.00yp
Llyfrgell Wrecsam
£6
From Hollywood to Wrexham yw teitl llyfr nesaf yr awdur lleol Peter Read am dymhorau cyntaf Clwb Pêl-droed Wrecsam o dan reolaeth y perchnogion newydd Ryan Reynolds a Rob McElhenny. Felly, dyma gyfle i gael cip ymlaen llaw pan fydd Peter yn rhannu rhai o’r straeon rhyfeddol sydd wedi ysbrydoli’r darn diweddaraf hwn o’i ysgrifennu toreithiog. Os ydych chi wedi gweld ei sioeau un dyn a’i ddramâu niferus – a lwyfannwyd mewn dros 40 o theatrau – byddwch yn gwybod bod Peter Read yn chwedleuwr gwych ac yma fe fydd yn plethu stori Hollywood yn cymryd yr awenau gyda’i brofiadau ei hun, a phrofiadau cefnogwyr eraill, tra’n dilyn y Robins a’r Dreigiau. Ac efallai y gellir darbwyllo Peter i berfformio detholiad o’i ddrama ddiweddar Dixie or Me! am flynyddoedd gogoniant blaenorol y clwb.