Newyddion o Lerpwl!

2023 yw Liverpool Year of Reading ac mae’n nodi cychwyn ail Gylchred Llythrennedd Lerpwl.  Nod y gylchred yw ymgysylltu â phawb a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd sgiliau llythrennedd ym mywyd bob dydd tra’n hyrwyddo gweithgareddau creadigol megis ysgrifennu a pherfformio.  Mae’r ffocws yn newid bob blwyddyn drwy ddarllen, ysgrifennu a gwella llafaredd a thynnu sylw at wyliau a mentrau.

Mae gennym rwydwaith helaeth o bartneriaid llythrennedd sydd yn ein helpu i rannu gwybodaeth a thîm cynllunio sydd yn rheoli’r flwyddyn ac sy’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau ychwanegol megis y bathodyn LYOR.  Mae’r tîm eisoes wrthi’n trefnu calendr 2023 ac yn trafod syniadau o ran sut i adnewyddu ein hagwedd tuag at ddarllen drwy chwilio’n gyson am ffyrdd newydd o ymestyn ein chwyldro llythrennedd.  Rydym wrth ein boddau bod yr ymdrech ar y cyd unwaith eto’n canolbwyntio ar eirfa, llyfrau a darllen.  Fe fyddwn ni’n gweithio gydag ysgolion, prifysgolion, awduron, beirdd, elusennau, busnesau a sefydliadau i gyfleu’r neges mae: Lerpwl yn Caru Darllen!

Cafodd y Flwyddyn o Ddarllen ei lansio’n swyddogol ar 28 Ionawr yn Llyfrgell Ganolog Lerpwl gan Lesley Martin-Wright, Uchel Siryf Glannau Mersi.  Roedd yna dros 40 o berfformwyr yn y lansiad gyda beirdd, storïwyr, awduron yn darllen o’u llyfrau a phlant ysgol yn actio eu straeon. Roedd hi’n ddiwrnod gwych gydag awyrgylch a chyffro ffantastig.  Yn y digwyddiad, fe wnaethom ni hefyd lansio llyfr 2022 Liverpool Year of Spoken Word sydd yn dogfennu’r flwyddyn mewn lluniau a cherddi, ac mae ar gael i’w brynu ar-lein https://www.beatlesliverpoolandmore.com/store/c1/Featured_Products.html

Rydym yn ffodus fod gennym The Reader sydd yn The Mansion House, Calderstones Park yn Lerpwl; fe ddylech ddod draw i weld cyfleuster mor wych ydyw ar gyfer y ddinas.  Rydym ni’n gobeithio cynnal rhywfaint o’n cyfarfodydd cynllunio yno ac yn llyfrgell Sefton Park yn ystod y flwyddyn.  Mae yna gymaint i’w wneud….

Mae tîm Liverpool Year of Reading yn edrych ymlaen at rannu blwyddyn arall o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd, ysgolion a chymunedau Glannau Mersi yn cefnogi darllen fel sgil a hyrwyddo darllen fel pleser.

Rydym ni’n anfon ein dymuniadau gorau i Ŵyl Eiriau Wrecsam, sef eich 9fed Gŵyl yn dathlu darllen, ysgrifennu a barddoniaeth ar lafar.

#LivLitCycle #LiverpoolReads

Blogiau Eraill

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Ydych chi’n hoffi llyfrau sy’n llawn o gymeriadau diddorol, plotiau twyllodrus a diweddglo syfrdanol? Os mai’r ateb yw ‘YDW’, mae’r digwyddiad hwn i chi! Dewch i gwrdd â Harriet Tyce, awdur y nofelau cyffrous seicolegol Blood Orange, The Lies You Told a’i chyfrol...

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Pan oeddwn yn athrawes newydd gymhwyso, cymerais ran yn Niwrnod Rhyngwladol y Llyfr cyntaf erioed.  Bryd hynny, roedd y diwrnod yn cael ei gynnal ar ben-blwydd Shakespeare (23 Ebrill). Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau o ran beth ddylai pobl ei wisgo, ac roedd pawb yn dod...

Bleak House

Bleak House

Yng Ngharnifal Geiriau Wrecsam y llynedd fe wnaethom arbrofi trwy ofyn i bobl ymuno â ni mewn gweithgaredd darllen hir o fis Ionawr i fis Ebrill. Bu nofel ‘Middlemarch’ gan George Eliot yn boblogaidd iawn a chawsom lawer o hwyl yn ei thrafod mewn digwyddiad yn...