Allwch chi ysgrifennu sgript Dirgelwch Llofruddiaeth?

 

Mae gŵyl lenyddol leol Wrecsam yn galw ar bobl leol sy’n hoff o ddirgelwch
llofruddiaeth i roi cynnig ar eu cystadleuaeth ysgrifennu sgript flynyddol. Mae Gŵyl
Geiriau Wrecsam yn cynnal noson ddirgelwch llofruddiaeth flynyddol yn ystod yr ŵyl
flynyddol sy’n dathlu llyfrau, darllen ac awduron ac mae’n galw am i sgriptiau gael eu
cyflwyno ar gyfer digwyddiad 2026.
Fel rhan o’r gystadleuaeth rhaid i ymgeiswyr greu sgript bedair rhan gyda
chymeriadau yn cynnwys cyfaddefiad gyda’r sgript yn cynnwys dau gymeriad
gwrywaidd a dau gymeriad benywaidd ac mae yna gryn le i ehangu’r sefyllfa drwy
ddisgrifio’r olygfa o ran y llofruddiaeth a’r ymchwiliad, a’r lleoliad a’r cyfnod lle mae’n
digwydd. Bydd y sgript fuddugol yn cael ei pherfformio gan bedwar actor amatur a
fydd yn darllen/actio pob rhan yn nigwyddiad Dirgelwch Llofruddiaeth Gŵyl Geiriau
Wrecsam ar 29 Ebril 2026.
Mae’r gallu i ddenu’r gynulleidfa i’r dirgelwch llofruddiaeth wrth iddynt chwarae
ditectif yn allweddol. Mae dewis y cymeriadau yn y sgript yn hanfodol i lwyddiant y
plot, gyda’r naratif yn ei gwneud yn glir beth yw trywydd y stori. Yr awdur fydd yn
penderfynu pa mor gynnil neu amlwg yr hoffent fod gyda’r cliwiau a bydd angen codi
ambell sgwarnog i’n camarwain!
Bydd y gystadleuaeth ar agor o 1 Awst 2025 tan 31 Hydref 2025 a bydd awdur
nofelau ditectif adnabyddus a llwyddiannus lleol yn beirniadu. Mae yna wobr o £100
a bydd y sgript fuddugol yn cael ei pherfformio yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam. Fe
gyhoeddir enw’r enillydd yn y digwyddiad lansio ym Mawrth 2026.
Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn hyrwyddo ac yn annog ysgrifennu o ansawdd gan
unigolion lleol brwd a bydd y noson Dirgelwch Llofruddiaeth yn un digwyddiad mewn
rhaglen wythnos o hyd o ddigwyddiadau diddorol ac amrywiol yn ymwneud â llyfrau.
Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ŵyl lenyddol flynyddol a bydd yn cael ei chynnal yn
ystod yr wythnos rhwng 24 Ebrill a 1 Mai 2026.
Mae’r Gystadleuaeth Dirgelwch Llofruddiaeth ar agor o 1 Awst a gellir cael ffurflenni
cais o unrhyw lyfrgell leol neu o’r wefan: