Dydd Iau, 27 Ebrill, 7.00yp
Llyfrgell Wrecsam
£6
Yn gyn-ewythr gofidiau gyda chylchgrawn Bliss i enethod yn eu harddegau, mae Mike Gayle yn newyddiadurwr ac yn awdur sydd wedi ysgrifennu deunaw o nofelau. Mae wedi ysgrifennu i nifer o gyhoeddiadau fel y Sunday Times, y Daily Mail a Cosmopolitan. Ymysg nofelau Mike mae Half a World Away, a ddetholwyd ar gyfer Clwb Llyfrau Richard a Judy, All the Lonely People, a oedd yn ôl y Guardian yn ‘heartbreaking and ultimately uplifting look at isolation’. Yn 2021 enillodd Mike Wobr Cyflawniad Eithriadol gan Gymdeithas y Nofelwyr Rhamant. Mae ei lyfrau wedi’u cyfieithu i fwy na deg ar hugain o ieithoedd ac yn 2022 enillodd ddoethuriaeth anrhydeddus gan Brifysgol Salford i gydnabod ei lwyddiant aruthrol.


















