Dydd Sadwrn 29 Ebrill, 7.00pm
Llyfrgell Wrecsam
£10
Ymunwch â nid un, ond dau o awduron rhamant sydd wedi bod ar frig siartiau’r Sunday Times wrth iddynt ddod â’u cariad at ysgrifennu i bobl Wrecsam.
Mae Erica James yn hen gyfarwydd â llwyddiant. Aeth ei nofel gyntaf, A Breath of Fresh Air, i frig siartiau’r Sunday Times ym 1996 ac enillodd wobr Nofel Ramant y Flwyddyn am Gardens of Delight yn 2006. Ers y dyddiau cynnar hynny mae Erica wedi ysgrifennu pedair ar hugain o nofelau eraill sydd wedi gwerthu mwy na phum miliwn o gopïau ledled y byd a chael eu cyfieithu i dair ar ddeg o wahanol ieithoedd. Mae ei chyfrol ddiweddaraf, A Secret Garden Affair, yn stori dorcalonnus a gwych am gyfrinachau a chariad.
Ymunodd Lucy Diamond â dosbarth ysgrifennu creadigol i gael seibiant o’r anhrefn ar yr aelwyd wrth fagu ei theulu ifanc, ac arweiniodd hynny at ei nofel gyntaf, Any Way You Want Me. Ers hynny mae Lucy wedi ysgrifennu dwy ar bymtheg o nofelau eraill a thair o nofelau byrion, gan werthu mwy na dwy filiwn o gopïau ledled y byd. Mae ei chyfrol ddiweddaraf, The Best Days of Our Lives, yn nofel dwymgalon ynglŷn â theulu, colled a chariad sy’n llawn gobaith ac ysbrydoliaeth.
Lucy Diamond




















Erica James

























