Jude Lennon ydw i a dw i’n storïwr proffesiynol gyda Little Lamb Tales ac yn awdur dan fy enw fy hun. Ysgrifennu llyfrau lluniau i blant ydw i’n bennaf, ac mae llawer ohonyn nhw’n cynnwys fy masgotiaid dweud stori Lamby a Flossie. Rydw i hefyd wedi ysgrifennu llyfrau penodau ar gyfer blant 8-12 oed a chasgliad o straeon byrion i oedolion. Yn 2022 bu i mi ryddhau nofel o’r enw Kintsugi – dim ŵyn bach yn y llyfr hwn, ac nid llyfr i blant chwaith.
Rydw i wedi bod yn rhan o’r carnifal ers chwe blynedd bellach. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydw i wedi cynnal gweithdai a sesiynau stori. Mae’n ŵyl hwyliog iawn i fod yn rhan ohoni. Rydw i hefyd wedi mwynhau mynd i’r digwyddiadau amrywiol a diddorol yn ystod yr ŵyl bob blwyddyn. Mae yna wastad rhywbeth at ddant pawb!
Felly pam y dylech chi ddod i’r Carnifal Geiriau? Mae’n wythnos gyflawn wedi’i chysegru i lyfrau, geiriau a straeon – be well? Bydd yn eich cyflwyno i ysgrifenwyr newydd yn ogystal â rhai cyfarwydd. Mae yna lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhyngweithiol fel teithiau dweud stori, nosweithiau dirgelwch llofruddiaeth a thrafodaethau. Mae hefyd yn werth da iawn am arian. Byddwch hefyd yn derbyn croeso cynnes gan y tîm.