Dydd Gwener, 28 Ebrill, 2.00pm
Llyfrgell Wrecsam
£6
Mae Jenny Blackhurst yn awdur poblogaidd yn rhyngwladol sydd wedi ysgrifennu saith o nofelau seicolegol. Ysgrifennodd ei llyfr cyntaf wedi genedigaeth ei mab, pan roedd ganddi gyfle rhwng bwydo a newid clytiau, heb feddwl y byddai neb yn ei ddarllen. Enillodd y llyfr hwnnw, How I Lost You, wobr arian Neilsen am werthu cynifer o gopïau ac ers hynny mae hanner miliwn ohonynt wedi gwerthu yn y Deyrnas Gyfunol yn unig. Ei chyfrol ddiweddaraf yw The Hiking Trip, hanes dynes ar goll ar y West Coast Trail yng Nghanada gyda cherddwr sydd wedi bod yn celu cyfrinach ers ugain mlynedd; un sy’n sicr o ddod i’r amlwg pan ddaw rhywun o hyd i gorff.






