Dydd Mercher 29 Mawrth, 7.00pm
Llyfrgell Wrecsam
£8
Dewch i gwrdd â Harriet Tyce, awdur y nofelau cyffrous seicolegol Blood Orange, The Lies You Told a’i chyfrol boblogaidd ddiweddaraf, It Ends at Midnight. Wedi bod yn fargyfreithiwr troseddol am ddegawd fe drodd ei llaw at fod yn awdur llawn-amser ac mae ei llyfrau wedi bod ar frig siartiau’r Sunday Times.
Mae nofelau Harriet Tyce yn llawn o gymeriadau diddorol, plotiau twyllodrus a diweddglo syfrdanol.


