Ydych chi’n hoffi llyfrau sy’n llawn o gymeriadau diddorol, plotiau twyllodrus a diweddglo syfrdanol? Os mai’r ateb yw ‘YDW’, mae’r digwyddiad hwn i chi!
Dewch i gwrdd â Harriet Tyce, awdur y nofelau cyffrous seicolegol Blood Orange, The Lies You Told a’i chyfrol boblogaidd ddiweddaraf, It Ends at Midnight. Cynhelir y digwyddiad yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Mercher 29 Mawrth am 7pm, gyda phris tocyn yn £8 yn unig – ni ddylech ei golli!
Ganed a magwyd Harriet Tyce yng Nghaeredin. Graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Rhydychen ym 1994, ac ar ôl ennill cymwysterau cyfreithio fe weithiodd fel bargyfreithiwr troseddol am bron i ddegawd. Ar ôl gadael y gyfraith dechreuodd ysgrifennu, gan ennill rhagoriaeth MA mewn Ysgrifennu Creadigol (Ffuglen Trosedd) o Brifysgol East Anglia yn 2017. Ar ôl troi’n llawn amser i ysgrifennu llyfrau mae hi wedi dod i frig rhestrau gwerthwyr gorau’r Sunday Times. Ar hyn o bryd mae Harriet yn byw yng ngogledd Llundain gyda’i gŵr, plant a dau gi, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ei phedwaredd nofel.
Fodd bynnag, fel rhan fwyaf o awduron, mae mwy i Harriet Tyce nac un paragraff! Beth a’i hysbrydolodd i ysgrifennu stori fer am ddyn yn lladd coeden? Pa mor hir a ysgrifennodd cyn iddi gael ei chyhoeddi? Sut oedd cael ei gwrthod yn gwella bob amser? Sut wnaeth cwrs ysgrifennu droi i seicodrama? A sut wnaeth meddylfryd gamblwr ei hybu hi i gyhoeddi ei nofel gyntaf Blood Orange? Os hoffech ddarganfod mwy am Harriet Tyce, a chael atebion i rai o’r cwestiynau hyn, archebwch eich tocyn rŵan!