Rydw i newydd orffen darllen nofel fendigedig o oes Fictoria. Ei henw ydi Pickwick Abroad. Dilyniant i The Pickwick Papers, dybiwch chi? Rydych chi’n llygad eich lle. Nid Charles Dickens a ysgrifennodd Pickwick Abroad, fodd bynnag, ond awdur cwbl anhysbys o’r enw George W.M. Reynolds.
Fe ddes i ar draws ysbryd George Reynolds wrth imi ysgrifennu fy nofel gyntaf ynglŷn â Rhyfel Cartref Sbaen, The Assassin’s Mark. Yn fy nofelau mae’r newyddiadurwr Jack Telford yn gweithio i’r papur newydd go iawn Reynold’s News papur Sul blaengar a phoblogaidd a gyhoeddwyd ar ryw ffurf neu’i gilydd rhwng 1850 a 1967.
Aeth rhywfaint o amser heibio cyn imi ddechrau ymddiddori yn Reynolds ei hun. Fe’i ganwyd ym 1814 yn Swydd Caint, lle bu’n un o hoelion wyth mudiad y Siartwyr, yn ymgyrchydd dros ddiwygio gwleidyddol, yn gefnogwr pobl dlawd ac yn Weriniaethwr Prydeinig selog gydol ei oes.
Bu’n gyfrifol am gyhoeddi neu olygu wyth o bapurau newydd a chyfnodolion blaenllaw – gan gynnwys Reynolds’s Weekly Newspaper, a fyddai’n troi’n Reynold’s News yn ddiweddarach – ac ysgrifennodd wyth o gyfrolau ffeithiol o bwys. Mae’n anodd credu ei fod hefyd wedi cael amser i ysgrifennu dim llai na hanner cant a saith o nofelau. Hanner cant a saith! Ymhlith y rheiny roedd Pickwick Abroad a stori debyg arall, Pickwick Married. Roedd yno hefyd nofelau cyffro bendigedig fel The Mysteries of London, a’r nofel Gothig The Wehr-Wolf sy’n un o’r clasuron o blith y straeon arswyd cynnar.
Nes bu iddo farw ym 1879, cafodd mwy o lyfrau Reynolds eu gwerthu a’u darllen na holl waith Dickens a Thackeray. Roedd yn well gan lawer o adolygwyr yr oes waith George Reynolds na Dickens a Thackeray, gan haeru ei fod yn meddu ar holl rinweddau’r ddau ohonynt a dim o’u ffaeleddau. Erbyn heddiw, serch hynny, prin yw’r cof amdano. Rhyfedd iawn, yn wir, ac efallai ei bod yn hen bryd inni roi sylw o’r newydd i George Reynolds!
Wedi llwyddiant darllenathon clasuron y llynedd bydd darllenwyr Wrecsam yn rhoi cynnig ar her newydd yn 2023 – Bleak House gan Charles Dickens. Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ynglŷn â’r clasur hwn yn ogystal â darlleniadau a chwis yng nghwmni’r podcastiwr Bookylicious, Paul Jeorrett ddydd Sadwrn 22 Ebrill 2023.
Postiwyd y blog hwn gan Dave McCall, awdur o Wrecsam sy’n ysgrifennu ffuglen hanesyddol dan y ffugenw David Ebsworth.