Dydd Sadwrn, 29 Ebrill, 4.00yp
Llyfrgell Wrecsam
£8
Sgwrs â Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, ynglŷn â phŵer creadigrwydd a’r ffordd y mae barddoniaeth yn gwneud synnwyr o’r byd. Mae Issa’n artist hil gymysg sy’n plethu gwahanol hanesion, chwedlau ac ieithoedd o’i gwahanol ddiwylliannau ac yn arbrofi â dulliau sy’n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, ffilm a pherfformiad. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys ei chasgliad o farddoniaeth, My Body Can House Two Hearts ac Welsh Plural: Essays on the Future of Wales. Fe berfformiwyd ei monolog buddugol, With Her Back Straight yn y Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Mae’n aelod o dîm ysgrifennu’r gyfres wych ar Sianel 4, We Are Lady Parts. Hanan yw cyd-sylfaenydd y gyfres meic agored Where I’m Coming From ac mae’n Gymrawd Rhyngwladol Cymru ar gyfer Gŵyl y Gelli 2022-23.
