Eisoes wedi rhoi cynnig ar ysgrifennu? Awydd rhoi cynnig arni? Efallai mai Cylch Ysgrifenwyr newydd Wrecsam yw’r ateb i chi. Dim ond un o lwyddiannau niferus yr Ŵyl Eiriau.
Mae Wrecsam yn llawn doniau ysgrifennu ac yn ystod yr Ŵyl Eiriau gyntaf, daeth llawer o feirdd, awduron, dramodwyr, cantorion sy’n gyfansoddwyr, newyddiadurwyr, blogwyr a rhai sy’n adrodd straeon i blant at ei gilydd i ffurfio Grŵp Ysgrifenwyr Wrecsam.
Cymerodd 30 o aelodau’r grŵp ran yng Ngharwsél Ysgrifenwyr 2022 fel rhan o’r Ŵyl. Sesiynau panel a meic agored i arddangos eu sgiliau adrodd straeon a diddori ein cynulleidfaoedd. Byddant yn gwneud yr un peth eto pan fydd y Carwsél yn dychwelyd i Dŷ Pawb ddydd Sadwrn 29 Ebrill, yn dechrau am 11.00am.
Ond yn y cyfamser, mae’r Cylch Ysgrifenwyr yn fyw ac yn iach – fel gall ei aelodau rannu’r gwaith sydd ganddynt ar y gweill a chael adborth arno, yn ogystal â chefnogi’r naill a’r llall ar bob agwedd o’u taith ysgrifennu. Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Sadwrn 26 Tachwedd, 10.30am, yn yr ystafell gyfarfod, i fyny’r grisiau yn Llyfrgell Wrecsam. Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb.