Grwpiau Darllen

Sut beth fyddai parti hunanladdiad siocled rhywun 81 oed?  Sut beth yw eistedd yn llonydd am oriau wrth i feistr wrth ei waith beintio darlun ohonoch? Sut fath o nofel fyddai un gan Charles Dickens pe bai wedi’i ysgrifennu heddiw?  Mae modd trafod hyn i gyd, a mwy, gyda grwpiau o bobl sy’n hoffi darllen ac sydd eisiau siarad am yr hyn y maen nhw’n eu darllen.

Mae ymchwil wedi dangos fod cymryd rhan mewn grwpiau darllen ar y cyd yn gysylltiedig â medru ymlacio’n well a gwell tawelwch meddwl, canolbwyntio, ansawdd bywyd, hyder a hunan-barch, yn ogystal ag ymdeimlad o gymuned a phwrpas – ac ar ben hynny oll fe gewch chi ddarllen llyfrau newydd bendigedig!

Ydych chi’n rhedeg grŵp darllen ac weithiau’n ei chael yn anodd dod o hyd i rywbeth i’w ddarllen, neu a hoffech chi gychwyn grŵp darllen gyda chriw o ffrindiau ond heb fod yn sicr sut i fynd o’i chwmpas hi?  Mae gan y Reading Agency (elusen genedlaethol sy’n helpu pobl i oresgyn heriau mawr mewn bywyd drwy gyfrwng grymus darllen) adran ar ei wefan i’ch helpu i sefydlu a chynnal grŵp darllen, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gynnal grŵp darllen ar-lein, ac maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag amryw gyhoeddwyr ac yn medru cael llyfrau am ddim mewn swp yn arbennig ar gyfer grwpiau darllen. Maent yn cysgodi’r gwobrau llenyddol mawr i gyd, yn adolygu llyfrau oedolion a phlant, ac mae ganddynt hysbysfwrdd ardderchog ar gyfer popeth sydd a wnelo â grwpiau darllen.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://readinggroups.org/ 

Os nad yw hynny at eich dant chi, ewch i unrhyw un o’r llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a gofynnwch i’r staff eich helpu i ddethol eich llyfr nesaf neu ateb rhai o’ch cwestiynau am grwpiau darllen.  Mae llawer o lyfrgelloedd Wrecsam yn cynnal a chefnogi grwpiau darllen a gallant ddarparu llyfrau i’ch grŵp eu darllen.  I gael manylion eich llyfrgell leol ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/services/llyfrgelloedd

Os ydych chi’n aelod o grŵp darllen a bod y grŵp yn dymuno dod i un o’n digwyddiadau ni, rhowch wybod inni a gallwn werthu tocynnau rhad i bob aelod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad (ac eithrio’r Dirgelwch Llofruddiaeth).

Os ydych chi’n ystyried ymuno â grŵp darllen, pam oedi?

Blogiau Eraill

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Ydych chi’n hoffi llyfrau sy’n llawn o gymeriadau diddorol, plotiau twyllodrus a diweddglo syfrdanol? Os mai’r ateb yw ‘YDW’, mae’r digwyddiad hwn i chi! Dewch i gwrdd â Harriet Tyce, awdur y nofelau cyffrous seicolegol Blood Orange, The Lies You Told a’i chyfrol...

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Pan oeddwn yn athrawes newydd gymhwyso, cymerais ran yn Niwrnod Rhyngwladol y Llyfr cyntaf erioed.  Bryd hynny, roedd y diwrnod yn cael ei gynnal ar ben-blwydd Shakespeare (23 Ebrill). Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau o ran beth ddylai pobl ei wisgo, ac roedd pawb yn dod...

Bleak House

Bleak House

Yng Ngharnifal Geiriau Wrecsam y llynedd fe wnaethom arbrofi trwy ofyn i bobl ymuno â ni mewn gweithgaredd darllen hir o fis Ionawr i fis Ebrill. Bu nofel ‘Middlemarch’ gan George Eliot yn boblogaidd iawn a chawsom lawer o hwyl yn ei thrafod mewn digwyddiad yn...