Mae’r awdur nofelau trosedd Vaseem Khan yn un o gefnogwyr brwd Gŵyl Geiriau Wrecsam. Yn ôl yn 2015 fe gyhoeddodd Vas y nofel gyntaf o bump (a dwy nofel fer) yn y gyfres Baby Ganesh Detective Agency, a The Lost Man of Bombay yw’r drydedd nofel yn ei gyfres Malabar House.
Mae Vas hefyd yn un o noddwyr yr Ŵyl ac felly roedd hi’n wych ei fod wedi cytuno i gynnal sesiwn awr wedi’i ffrydio’n fyw yng Nghynulliad Ysgrifenwyr Wrecsam sydd i’w gynnal ar 21 Ionawr yng Nghanolfan Gymunedol Acton. Teitl y sesiwn? Plot, Pace and How to Make Your Work Sizzle.
Bydd y sesiwn yn cyd-fynd yn dda â’r gweithdai eraill oedd eisoes wedi’u trefnu: Cyflwyniad Peter Read i bob math o ysgrifennu bendigedig, Welcome to Wr…Writing; gwers hynod ddifyr Rona Campbell ynglŷn ag Ysgrifennu Gweledol; a darlith addysgiadol a difyr dros ben gan Phil Burrows – Ten Things I Wish I’d Known Before I Began.
Rhowch wybod inni os hoffech wybod mwy am grŵp Ysgrifenwyr Wrecsam, a dewch inni obeithio y cawn gwrdd wyneb yn wyneb â Vaseem Khan yng Ngŵyl Geiriau 2024 a sgwrsio am ei lyfrau diweddaraf.
Darllenwch raglen lawn Gŵyl Geiriau 2023 i gael gwybod am yr holl awduron gwych a fydd yn ymddangos rhwng 22 a 29 Ebrill.
Mae Dave McCall yn awdur o Wrecsam sy’n ysgrifennu ffuglen hanesyddol dan y ffugenw David Ebsworth. Mae Dave hefyd yn un o’r gwirfoddolwyr sy’n helpu i drefnu Gŵyl Geiriau Wrecsam.