Dydd Mawrth, 25 Ebrill, 2.00yp
Llyfrgell Wrecsam
£6
Lleolir hanesion ditectif cysurus Glenda Young yn Scarborough a dyfarnwyd lle iddynt ar restr fer gwobrau Dear Good Readers am y gyfres dditectif newydd orau. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu straeon cignoeth wedi’u lleoli mewn pentref glofaol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ym 1919 a llyfrau i gyd-fynd â Coronation Street ar ITV. Mae Glenda wedi ennill gwobrau am ei straeon byrion ac roedd hi’n un o chwech a gyrhaeddodd rownd derfynol gwobr gomedi Clement a Le Frenais. Mae ganddi hefyd bluen unigryw yn ei het fel awdur Riverside, opera sebon wythnosol a gyhoeddir yn y People’s Friend ers 2016. Ymunwch â Glenda am sgwrs hwyliog ac anffurfiol am ei nofel dditectif gysurus, Curtain Call at the Seaview Hotel a chlywed am y cast anhygoel o gymeriadau gan gynnwys dramodydd dramatig a diva go iawn!
















