Dydd Llun 24 Ebrill, 2.00pm
Digwyddiad caeedig i ysgolion
Mae’r sgriptiwr a nofelydd Frank Cottrell-Boyce yn enwog am ei ffuglen ardderchog i blant ac am greu seremoni agoriadol gofiadwy’r Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, a bydd yn ymweld ag ysgolion lleol. Mae Frank wedi ennill y gwobrau llenyddol Prydeinig mawr, Medal Carnegie am Millions a Gwobr y Guardian yn 2012 am The Unforgotten Coat. Bydd disgyblion blynyddoedd 6 a 7 yn sgwrsio â Frank am ei yrfa fel awdur, ei ddarnau diweddaraf o waith, ei hoff lyfrau – a’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn y dyfodol gan un o’r awduron mwyaf uchel eu parch yn y wlad.














