Dydd Llun, 24 Ebrill, 5.00pm
Llyfrgell Wrecsam
£6
Dewch i gwrdd â’r sgriptiwr, nofelydd a cherddor dwyieithog Fflur Dafydd wrth iddi sôn am… ei gyrfa fel awdur sydd wedi ei henwebu am wobr BAFTA, ei mwynhad o greu dramâu poblogaidd ar gyfer S4C a BBC iPlayer, ei gwaith ar Yr Amgueddfa, drama gyffrous am drosedd yn y byd celf sy’n cael ei galw “Lupin yn Gymraeg”, yr hanes y tu ôl i’w nofel ddiweddaraf (2023), The Library Suicides – addasiad Saesneg o’i nofel Y Llyfrgell a gyhoeddwyd yn 2009 ac y gwnaed ffilm ohoni yn 2016, ac efallai ryw awgrym am yr hyn a fydd yn dod nesaf.
Yn The Library Suicides dilynwn yr efeilliaid Ana a Nan, sydd ar gyfeiliorn wedi i’w mam farw, awdur adnabyddus a laddodd ei hun, yn ôl pob golwg, drwy neidio o ffenestr, gan adael nodyn yn beio ei bywgraffydd a beirniad, Eben, am ei marwolaeth. Wrth weithio sifft nos yn y Llyfrgell Genedlaethol mae’r ddwy’n crwydro’r labyrinth o goridorau wrth gynllwynio i ddial ar Eben drwy gloi’r adeilad i lawr. Ond pan mae swyddog diogelwch drygionus yn dechrau cyboli â’r cynllwyn a rhyddhau pobl o’r adeilad, mae’r sefyllfa’n troi’n enbyd i Ana, Nan ac Eben ac mae rhywbeth a ddechreuodd fel gweithred bendant o ddial yn chwalu’n llanast o deyrngarwch, cymhellion a’r hyn sy’n ein gwneud ni pwy’r ydym. Roedd y nofel wreiddiol a’r ffilm yn Gymraeg ac mae’r addasiad Saesneg yn ymgais i ddangos mor hawdd y byddai dileu hunaniaeth cenedl drwy gael gwared â’i threftadaeth lenyddol.










