Fedrwch chi ‘sgwennu sgript Dirgelwch Llofruddiaeth?

Os ydych chi’n hoff o ddirgelwch llofruddiaeth ac ysgrifennu yna mae gwahoddiad i chi gystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Sgript Dirgelwch Llofruddiaeth Carnifal Gŵyl Geiriau Wrecsam 2023. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw awdur gyda sgript wreiddiol sy’n cyd-fynd â’r gofynion ac sydd heb ei chyhoeddi o’r blaen. Bydd gennych chi rhwng 1 a 29 Medi 2023 i gyflwyno eich sgript a bydd yr awdur buddugol yn ennill £100. Bydd y sgript hefyd yn cael ei pherfformio gan actorion amatur lleol yn ystod noson Dirgelwch Llofruddiaeth Gŵyl Geiriau Wrecsam ym mis Ebrill 2024.

Beirniad y gystadleuaeth fydd Simon McCleave, noddwr Gŵyl Geiriau Wrecsam ac awdur nofelau trosedd poblogaidd. Ei lyfr newydd, The Wrexham Killings a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2023, yw’r unfed ar bymtheg llyfr yng nghyfres DI Ruth Hunter.

Cafodd y rheiny sydd wrth eu bodd gyda nofelau trosedd wledd yng Ngŵyl 2023 gan gael eu diddanu gan yr awduron llyfrau cyffrous Tim Weaver, Glenda Young, Conrad Jones a Jenny Blackhurst, a gwrando ar Fflur Dafydd yn siarad am ei nofel unigryw The Library Suicides. Roedd perfformiad Dirgelwch Llofruddiaeth 2023 yn Llyfrgell Wrecsam dan ei sang, ac mae’r trefnwyr yn edrych ymlaen at glywed sgript wreiddiol gan awdur lleol flwyddyn nesaf. Mi fydd yna ddigon o droeon annisgwyl a thrywyddau seithug yn aros amdanoch!

Mae manylion y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau ar gael yma

 

CYSYLLTIADAU’R GOLYGYDD:

Dylan Hughes: dylan_hughes57@hotmail.com / 07756 047593

Debbie Williams: Debbie.williams@wrexham.gov.uk

Blogiau Eraill

Straeon Mawr, Ysgrifennwyd yn Wrecsam Gan Elen Caldecott

Straeon Mawr, Ysgrifennwyd yn Wrecsam Gan Elen Caldecott

Pan roeddwn i’n 10 mlwydd oed, dywedodd fy athrawes ysgol gynradd wrth y dosbarth, “Rydw i am i chi ysgrifennu stori heddiw. Nid oes rheolau; dim geiriau arbennig sydd angen i chi ddefnyddio, na gramadeg penodol, dim ond ymarfer.  Dim ond ysgrifennu stori.” Efallai...

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Ydych chi’n hoffi llyfrau sy’n llawn o gymeriadau diddorol, plotiau twyllodrus a diweddglo syfrdanol? Os mai’r ateb yw ‘YDW’, mae’r digwyddiad hwn i chi! Dewch i gwrdd â Harriet Tyce, awdur y nofelau cyffrous seicolegol Blood Orange, The Lies You Told a’i chyfrol...

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Diwrnod (Wythnos!) Rhyngwladol y Llyfr 2 Mawrth 2023

Pan oeddwn yn athrawes newydd gymhwyso, cymerais ran yn Niwrnod Rhyngwladol y Llyfr cyntaf erioed.  Bryd hynny, roedd y diwrnod yn cael ei gynnal ar ben-blwydd Shakespeare (23 Ebrill). Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau o ran beth ddylai pobl ei wisgo, ac roedd pawb yn dod...