Pan oeddwn i’n blentyn, nôl yn y 1980au, doedd dim byd gwell na diwrnod allan yn yr Heulfan yn y Rhyl. Ond yr AIL beth mwyaf cyffrous i’w wneud oedd mynd i Lyfrgell Wrecsam, gyda’i hadran llyfrau plant ar lawr suddedig a’i blychau llachar o LYFRAU bendigedig.
Roeddwn i’n cael pori drwy’r casgliad, gan edrych ar y tudalennau cyntaf a’r lluniau a chymryd fy amser i ddewis tra’r oedd mam yn cael seibiant llwyr haeddiannol yn y caffi. A dim llyfrgell Wrecsam yn unig oedd yn mynd â’m bryd; roedd dal handlen gron drws Llyfrgell Cefn Mawr fel cydio yn llaw ffrind; ac roedd mynd i’r siop lyfrau ar Ffordd Rhosddu (siop Ottakar’s oedd hi dwi’n meddwl) yn achlysur arbennig. Gyda phob ymweliad roeddwn i’n syrthio mewn mwy a mwy o gariad efo’r straeon ar y silffoedd. Felly, pan gefais wahoddiad i fod yn noddwr Carnifal Geiriau Wrecsam, roedd yn rhaid i mi dderbyn. Mae’n garnifal yr wyf wedi bod yn rhan ohono drwy gydol fy mywyd, hyd yn oed cyn i’r ŵyl ddod i fodolaeth.
Fel ysgrifennwr, mae’r llyfrgelloedd a’r gwerthwyr llyfrau y bu i mi ymweld â nhw wedi cael dylanwad mawr arnaf. Ac mae’n bleser gen i chwarae rhan i annog darllenwyr ac ysgrifenwyr y dyfodol drwy dderbyn y swydd hon.
Y dyddiau yma rydw i’n ysgrifennu ffuglen i blant a phobl ifanc: anturiaethau hanesyddol, ffantasiâu hud a lledrith a dramâu bywyd go iawn. Mae fy llyfrau wedi fy nghludo ar draws y DU a thu hwnt. Ond Wrecsam yw fy nghartref. Mae fy llyfr diweddaraf, The Blackthorn Branch, wedi’i leoli mewn byd sy’n gyfuniad o Gefn Mawr, Acrefair a Threfor, a bydd y darllenwyr sy’n gyfarwydd â’r pentrefi hynny yn adnabod eu cymunedau yn y llyfr. Mae’n braf cynrychioli Cymru ar y dudalen, ac fel noddwr y Carnifal.
Mae’r Carnifal Geiriau yn dod â darllenwyr ac ysgrifenwyr at ei gilydd drwy gariad at straeon – a hir oes i hynny!