Dydd Iau, 27 Ebrill, 2.00yp
Llyfrgell Y Waun
£6
Mae Conrad Jones yn awdur sydd wedi bod ar frig siartiau Amazon. Cyfieithwyd ei lyfrau i chwech o wahanol ieithoedd ac yn ogystal ag ysgrifennu nofelau ditectif cyffrous mae wedi creu’r gyfres Magic Dragon of Anglesey i blant. Mae’n fwyaf adnabyddus, fodd bynnag, am y gyfres Anglesey Murders sy’n dilyn hynt a helynt DI Alan Williams ac yn gysylltiedig â’i lyfrau ditectif Alex Ramsay sydd wedi’u haddasu’n nofelau graffig yn ddiweddar.

































