Dydd Sadwrn, 29 Ebrill, 11.00am – 3.00pm
Tŷ Pawb: Lle performio
AM DDIM [Tocyn yn ofynnol]
Bydd ysgrifenwyr gogledd Cymru – awduron, beirdd, cyfansoddwyr, blogwyr a newyddiadurwyr – yn cymryd rhan mewn paneli gwych. Mae’r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim ac fe’u cynhelir rhwng 11.00am a 3.00pm. Sesiynau’r bore – beirdd ac awduron Cymreig yn Gymraeg ac wedi’u cyfieithu; apêl bythol straeon arswyd; ac apêl Animé a Manga. Sesiynau’r prynhawn – awduron Pwylaidd gwych y dylem oll wybod amdanynt; pencampwr y nofelwyr Ffuglen Wyddonol; a’r hanesion a ysbrydolodd aelodau ein panel pan oeddent yn iau. Ar ben hyn oll bydd yno feic agored a cherddoriaeth yn ogystal â Marchnad lle gallwch bori drwy’r llyfrau o waith ein holl awduron lleol galluog.