Roedd yr adborth gan y cynulleidfaoedd a fynychodd yr ŵyl yn 2022 yn glir – dyma’r Ŵyl Geiriau orau erioed! Ar ôl dwy flynedd o gynnal yr ŵyl ar-lein, roedd yn braf dod allan o gyfyngiadau Covid-19 a chael awduron i ymddangos o flaen cynulleidfaoedd byw. Roeddem yn ofalus – ac fe wnaethom sicrhau lles pawb, ond roedd rhoi cyfle i bobl gwrdd ag awduron a chael eu diddanu wyneb yn wyneb ganddynt yn deimlad braf iawn.
Roedd nifer o berfformiadau cyffrous. Fe wnaeth Bethan Gwanas, Milly Johnson a Gervase Phinn ein diddanu ni! Fe wnaeth Mark Billingham, Alan Johnson a Simon McCleave ein cyffroi ni! Fe wnaeth Jason Bray, Ian Lucas a Dirgelwch Llofruddiaeth wneud i ni feddwl! Cawsom farddoniaeth, profiadau teithio a straeon plant. Roedd hyd yn oed carwsél awduron gydag awduron lleol, beirdd a cherddorion yn adrodd eu straeon. Rŵan rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at 2023.
Mae’r dyddiadau wedi’u cadarnhau. Bydd yr Ŵyl Geiriau yn cael ei chynnal o 22 i 29 Ebrill, 2023. Rydym eisoes wedi cysylltu ag awduron fel y gallwn adeiladu ar y digwyddiad gwych eleni. Os hoffech gael y newyddion diweddaraf ar yr hyn sy’n digwydd, cofrestrwch ar gyfer ein newyddlen neu ewch i’n gwefan.
Er bod Wrecsam wedi colli allan ar fod yn Ddinas Diwylliant mae’r sin llenyddol lleol yn tyfu. Byddwch yn rhan. Welwn ni chi’n fuan!