Bleak House

Yng Ngharnifal Geiriau Wrecsam y llynedd fe wnaethom arbrofi trwy ofyn i bobl ymuno â ni mewn gweithgaredd darllen hir o fis Ionawr i fis Ebrill. Bu nofel ‘Middlemarch’ gan George Eliot yn boblogaidd iawn a chawsom lawer o hwyl yn ei thrafod mewn digwyddiad yn Llyfrgell Wrecsam. Yn 2023 rydym yn eich annog i gyd i ymuno â ni i ddarllen ‘Bleak House’ gan Charles Dickens.

P’un a ydych yn ei garu neu’n ei gasáu, os ydych yn rhywun sy’n mwynhau llyfrau a darllen mae Charles Dickens yn awdur anodd iawn i’w anwybyddu! Roedd Dickens yn ffenomenon byd-eang, ac mae’n dal i fod, wrth i’w lyfrau barhau i gael eu gwerthu ledled y byd a’u cyfieithu i’r mwyafrif o brif ieithoedd y byd. Mae llawer o’i waith yn parhau i gael ei addasu ar gyfer radio, teledu a ffilm ac ymddengys ei fod yn dal mor boblogaidd ag erioed.

Cyhoeddwyd Bleak House fesul rhifyn misol rhwng Mawrth 1852 a Medi 1853 a hon yw nofel hiraf ond un Dickens. Efallai bod meddwl am fynd i’r afael â bron i 1000 o dudalennau o lenyddiaeth Fictoraidd yn dorcalonnus i chi, ond gadewch i mi geisio’ch perswadio pam y gallai fod yn fwy o hwyl nag y byddech yn ei ddisgwyl.

Fe astudiais i ‘Bleak House’ yn fy nghwrs Lefel A Saesneg Llen, sydd i rai yn gusan angau ar gyfer unrhyw gampwaith llenyddol, ond i mi dyma wnaeth i mi sylweddoli pam yr oedd fy nain a fy nhaid yn caru Dickens gymaint. Bydden nhw’n darllen penodau allan ar lafar i’w gilydd o flaen y tân bob nos, ac mae’n debyg mai dyma sut yr oedd y nofel i fod i gael ei mwynhau yn y cyfnod cyn y rhyngrwyd, y teledu a hyd yn oed y radio. I mi, hwn fydd y pedwerydd tro i mi ddarllen ‘Bleak House’, ac mae bron fel dychwelyd i’r dref fechan lle roeddech yn arfer byw i ymweld â theulu, ffrindiau a gelynion. Mae cymeriadau Dickens yn cael eu llunio’n fyw, o gymeriad ffals a chynffonllyd Mr Guppy i Tulkinghorn sy’n ddidrugaredd a difoeseg a chymeriad trasig Jo the Crossing Sweeper. Mae pob un yn dod at ei gilydd mewn bwa enfawr o blotiau rhyng-gysylltiol, a’u gorchuddio’n gyson gan darth Llundain sy’n tewhau’n barhaus ac yn gorchuddio Llysoedd y Gyfraith. Yng ngwaith Dickens mae bywyd yn cael ei ddatgelu yn ei gyfanrwydd ac rydych yn teimlo fel pe baech wedi’ch trochi’n gyfan gwbl ym myd Llundain yng nghanol Oes Fictoria. Un feirniadaeth sydd gennyf o Bleak House yw defnydd Dickens o iaith, rhywbeth sy’n gyffredin yng ngwaith llawer o awduron Fictoraidd, sef na all ddisgrifio rhywbeth neu rywun mewn llai na pharagraff sy’n cynnwys nifer o eiriau hir sy’n aml yn eiriau gwneud. Fel yn achos Middlemarch, rwy’n yn edrych ymlaen at ddychwelyd at nofel Bleak House a dod yn rhan o’i byd. Fel Middlemarch, mae gan Bleak House ymdeimlad episodaidd gyda phedair pennod yn ymddangos bob mis, ac wrth gwrs roedd Dickens yn feistr ar ddiweddgloeon cyffrous a phenagored a gwyddai sut i gadw ei ddarllenwyr ar bigau.

Os ydych yn dal heb eich argyhoeddi efallai y gallech drin Bleak House fel ‘bocs set’ da ac ymgolli ynddo am benwythnos cyfan. Os ddim, gallaf argymell addasiad Andrew Davies o’r nofel ar gyfer y BBC yn 2005 sy’n serennu Gillian Anderson, Anna Maxwell Martin, Charles Dance a Carey Mulligan.

Sut bynnag y byddwch yn ymgymryd â Bleak House, gobeithiaf y byddwch yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad am ddim yng Ngharnifal Geiriau Wrecsam 2023 yn Llyfrgell Wrecsam am 5pm ddydd Sadwrn 22 Ebrill. Bydd darlleniadau, trafodaeth a chwis hwyliog, felly dewch i ddweud wrthym am y pethau da a’r pethau drwg am y nofel yn eich barn chi.

Blogiau Eraill

Straeon Mawr, Ysgrifennwyd yn Wrecsam Gan Elen Caldecott

Straeon Mawr, Ysgrifennwyd yn Wrecsam Gan Elen Caldecott

Pan roeddwn i’n 10 mlwydd oed, dywedodd fy athrawes ysgol gynradd wrth y dosbarth, “Rydw i am i chi ysgrifennu stori heddiw. Nid oes rheolau; dim geiriau arbennig sydd angen i chi ddefnyddio, na gramadeg penodol, dim ond ymarfer.  Dim ond ysgrifennu stori.” Efallai...

Fedrwch chi ‘sgwennu sgript Dirgelwch Llofruddiaeth?

Fedrwch chi ‘sgwennu sgript Dirgelwch Llofruddiaeth?

Os ydych chi’n hoff o ddirgelwch llofruddiaeth ac ysgrifennu yna mae gwahoddiad i chi gystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Sgript Dirgelwch Llofruddiaeth Carnifal Gŵyl Geiriau Wrecsam 2023. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw awdur gyda sgript wreiddiol sy’n...

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Harriet Tyce – Llyfrgell Wrecsam – Dydd Mercher 29 Mawrth 7pm

Ydych chi’n hoffi llyfrau sy’n llawn o gymeriadau diddorol, plotiau twyllodrus a diweddglo syfrdanol? Os mai’r ateb yw ‘YDW’, mae’r digwyddiad hwn i chi! Dewch i gwrdd â Harriet Tyce, awdur y nofelau cyffrous seicolegol Blood Orange, The Lies You Told a’i chyfrol...