Pwy ydym ni – a beth ydym ni’n ei wneud?
Caiff Gŵyl Geiriau Wrecsam ei threfnu bob blwyddyn gan griw brwdfrydig sy’n caru llyfrau, ac mae gan bob un eu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd eu hunain. Mae gan bawb ei ran i’w chwarae a chyfrannu at lwyfannu’r Ŵyl i chi fel darllenwyr lleol a llyfr-garwyr. Mae ein harwyddair – “Mwy na dim ond Gŵyl Lenyddol!” yn cynnwys ein hangerdd am yr hyn rydym ni’n ei wneud a’n hymrwymiad i ddod â digwyddiadau llyfrau o safon i Wrecsam.
Y Pwyllgor
Dave McCall
Dave McCall yw un o drefnwyr cyffredinol yr Ŵyl ac mae ganddo angerdd penodol am ddigwyddiadau ffuglen hanesyddol. O dan ei ffugenw, David Ebsworth, mae o’n awdur llwyddiannus yn adrodd straeon o hanes y mae o’n dymuno y byddai rhywun arall eisoes wedi’u hysgrifennu ond sydd wedi cael eu hanghofio – tan rŵan!
Dylan Hughes
Dylan Hughes yw Cyfarwyddwr yr Ŵyl ac mae o’n siarad Cymraeg yn rhugl. Roedd yn Swyddog Llyfrgell i Gyngor Wrecsam am 18 mlynedd ac mae wedi cynrychioli llyfrgelloedd ar lefel genedlaethol ac wedi gweithio ar brosiectau Cymru gyfan, ac fe enillodd wobr Llyfrgellydd Cymraeg y Flwyddyn yn 2016. Mae o’n dal i fod yn ymroddedig iawn i Ŵyl Geiriau Wrecsam ac mae’n rhagweld dyfodol disglair i ddigwyddiadau llenyddol lleol.
Debbie Williams
Gyda gormod o flynyddoedd o brofiad o weithio mewn llyfrgelloedd a gweithio gydag awduron i’w cyfrif, mae Debbie yn trefnu llawer o’r digwyddiadau awduron, y deunyddiau marchnata ac mae’n darparu cefnogaeth sefydliadol gan y llyfrgell yn ystod yr Ŵyl Geiriau. Mae hi’n angerddol am darllen a rhoi cyfleoedd i ddarllenwyr gwrdd ag awduron.
Paul Clifton
Ganed y bardd Paul Clifton yn Llundain cyn symud i Wrecsam ac ef yw meistr cyfryngau cymdeithasol yr Ŵyl Geiriau ac ef yw trefnydd digwyddiadau barddoniaeth yn bennaf. Mae gan Paul angerdd dros ysgrifennu barddoniaeth ac mae o wedi cyhoeddi tri chasgliad.
Paul Jeorrett
Paul Jeorrett yw Dirprwy Gyfarwyddwr yr Ŵyl. Roedd yn Llyfrgellydd Prifysgol yn yr hyn sydd bellach yn cael ei alw’n Brifysgol Wrecsam am dros 25 mlynedd. Fe gynrychiolodd Calon Talks Books ar orsaf radio gymunedol Wrecsam am 14 mlynedd ac yna symudodd i gyflwyno a chynhyrchu podlediad Bookylicious lle mae o’n rhannu ei angerdd am lyfrau, ysgrifennu a darllen. Hoff ran Paul o Ŵyl Geiriau Wrecsam ydi cyfweld ag ystod amrywiol iawn o awduron o flaen cynulleidfa fyw.
Shan Cooper
Shân oedd y Llyfrgellydd Plant am dros 18 mlynedd a bellach hi yw Arweinydd Llyfrgelloedd Cyngor Wrecsam. Mae Shân yn angerddol am ymestyn cyrhaeddiad llyfrgelloedd cyhoeddus ac annog darllen er pleser i bawb. Meddai: “Un o’r manteision o fod ar bwyllgor Gŵyl Geiriau Wrecsam yw gweld y gynulleidfa yn cyfarfod ag awdur maen nhw eisoes wedi’i ddarllen, neu awdur nad ydynt nhw wedi’i ddarganfod eto; boed i hynny barhau am amser maith!”.

