Mae’r bardd lleol enwog Aled Lewis Evans yn uchel ei barch am ei lyfrau sy’n dwyn ysbrydoliaeth o’i brofiadau mewn bywyd. Ymunwch â ni wrth i Aled ddarllen o’i gasgliadau rhyddiaith a barddoniaeth diweddaraf yn Saesneg: Harvest Tide ac Afterglow.

Yn Harvest Tide mae Aled yn bwrw golwg yn ôl ar i fagwraeth yn y Bermo tua diwedd y 1960au ac yn adrodd hanes telynegol blwyddyn ym mywyd gŵr ifanc rhwng dau gynhaeaf. Mae Afterglow, a gyhoeddwyd yn 2021, yn cynnwys cerddi a gasglwyd yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws a dyma’i gyfrol gyntaf o farddoniaeth wreiddiol yn Saesneg ers  Someone Else in the Audience yn 2012.

Mae gwaith Aled wedi’i ysbrydoli gan y byd o’i gwmpas ac mae’n mynd yn syth at y galon. Mae’n hawdd ei ddarllen ac yn ddifyr, ond hefyd yn peri inni ailfeddwl am bynciau cyfarwydd.

Bydd llyfrau ar werth ar ôl y darlleniad.