Dydd Sadwrn, 22 Ebrill, 10am – 1.00pm
Llyfrgell Wrecsam
AM DDIM [Tocyn yn ofynnol]
Dewch â’r teulu oll i ddiwrnod cyntaf yr Ŵyl – pob math o storïwyr bendigedig a hwyl a sbri i bawb.
Bydd yr anhygoel Signing Sensations yn perfformio’u deongliadau cerddorol unigryw mewn iaith arwyddion.
Os byddwn ni’n lwcus, efallai y daw Magi Ann draw hefyd i adrodd ambell i hanes a siarad â ni am ei llyfrau a’i hapiau.
Wedyn bydd Krishnapriya Ramamoorthy a thîm Paallam Arts yn cyflwyno chwedlau gwerin o India sy’n pwysleisio mor werthfawr yw teulu a chymuned, gan ddefnyddio Bharatanatyam– dull adrodd straeon sy’n cyfuno’r gair llafar, dawns, ystumiau â’r dwylo, ystumiau wyneb, meim a symudiadau.
Yn olaf, fe ddangoswn ichi fod Barddoniaeth yn Cŵl! Chewch chi neb gwell i ddarbwyllo ein plant fod barddoniaeth yn cŵl na’r sêr lleol fel Evrah Rose a’i chyfeillion – ac efallai y daw gwestai arbennig i ymuno â nhw hefyd. Yn y digwyddiad hwn byddant yn dod ynghyd ag un o hoelion wyth yr Ŵyl Eiriau, yr awdur plant Jude Lennon (Little Lamb Tales) i ddifyrru ein teuluoedd a phlant (8+) gyda hanesion bendigedig am eu hanturiaethau wrth gyfansoddi barddoniaeth. Bydd digonedd o gyfle i bobl ifanc yn y gynulleidfa ofyn cwestiynau ac yna bydd y tîm yn eu rhoi ar waith yn creu eu cerddi eu hunain. I goroni’r cyfan bydd y tîm hefyd yn cyflwyno gwobrau i enillwyr Cystadleuaeth Barddoniaeth Plant Clwb Rotari Wrecsam, a ddetholwyd eleni o blith pobl ifanc Ysgol Gynradd Gatholig St. Mary’s.