Argymhellir yn gryf i unrhyw un sy’n caru ffuglen hanesyddol. O, dwi’n hoffi crefft y llenor Robert Harris yn fawr. Rwy’n ymdrechu’n galed i beidio, oherwydd nid yw byth yn ateb unrhyw un o’m negeseuon. Beth bynnag! A dyma un o’i goreuon. Un o’r goreuon ymhlith cymaint o rai eraill. Mwy ffeithiol na ffuglen, a stori un o’r helfâu mwyaf rhyfeddol mewn hanes. 1660, a’r Cadfridog Edward Whalley, yn ogystal a’r Cyrnol William Gough, tad a mab-yng-nghyfaith, yn croesi’r Iwerydd. Maen nhw ar ffo ac yn cael eu hel am lofruddiath Siarl I. Teyrnladdwyr, dau o’r nifer oedd wedi arwyddo gwarant marwolaeth y brenin. O dan ddarpariathau Deddf Oblivion, fe’u cafwyd yn euog yn eu habsenoldeb o uchel frad. Fel pawb sydd eisioes wedi’u dal, maen nhw’n wynebu’r posiblilrwydd o’r dienyddiadau mwyaf erchyll y gellir eu dychmygu.
Yn y cyfamser, ym Llundain, Richard Nayler, ysgrifennydd pwyllgor teyrnladdiad y Cyfrin Gyngor, sydd â’r dasg o olrhain y ffoaduriaid. Bydd yn eu herian nes bod y ddau ddyn yn cael eu dwyn o flaen eu gwell. Mae gwobr o £100 yn hongian dros eu pennau – am eu dal yn fyw neu’n farw.
Taith epig ar draws cyfandiroedd, a helfa fel dim arall.