1876 – “Blwyddyn o Ryfeddod”

Adnoddau ar gyfer nodi’r 150 Mlynedd o’r Annus Mirabilis hwn
Neges i athrawon yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

Croeso i dudalennau gwefan Carnifal Geiriau Wrecsam am 1876, “Blwyddyn o Ryfeddod” gwirioneddol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r Carnifal yn ŵyl lenyddol flynyddol – dathliad o adrodd straeon gwych ym mhob ffurf ac i’r teulu cyfan – wnaeth ddechrau yn 2015. Mae’n cael ei drefnu yn bennaf drwy Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam ac yn 2023, cyhoeddwyd Datgelu Wrecsam i annog teithiau cerdded hunan-arweiniol o hanes yr ardal.

 

Mae’r llawlyfr wedi denu llawer o ddiddordeb yn arbennig yn y digwyddiadau wnaeth gael eu cynnal yma yn ystod 1876 ei hun, ac yn arbennig yn y cyfnod i fyny at nodi’r 150 mlynedd. Dyma restr fer o rai o uchafbwyntiau allweddol 1876:

  • Sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru
  • Ymweliadau â’r ardal gan Syrcas Pinders Grant Continental
  • Sioeau Garddwriaethol
  • Agor Mynwent arbennig iawn Ffordd Rhiwabon yn Wrecsam
  • Arddangosfa Trysorau Celf a Diwydiannol 4 mis yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
  • Yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf (a mwyaf cofiadwy) i gael ei chynnal yn Wrecsam
  • Agor system tram cyntaf Wrecsam

Mae’r tudalennau canlynol yn cynnwys “sgriptiau” y bydd ysgolion yn dymuno eu defnyddio o bosibl i ysgogi diddordeb mewn un neu fwy o’r themâu hyn ac efallai ysbrydoli prosiectau creadigol ymysg plant ysgol a myfyrwyr hŷn wrth i ni gyrraedd 150 mlynedd o’r flwyddyn anhygoel hon.

Mae’r sgriptiau yn amlwg yn gallu cael eu haddasu ar gyfer camau allweddol gwahanol.

Mae pob tudalen hefyd yn cynnwys ambell lun cysylltiol a all fod yn ddefnyddiol.

 

Selina Ord Pinder (35). Y foneddiges cylch feistr.

Dewch draw! Dewch draw! Mae’r syrcas yn y dref. Tref Wrecsam. A Selina Pinder ydw i. Fy syrcas i yw hon. Gydag eliffantod, llewod a theigrod. Yma i helpu i greu Blwyddyn o Ryfeddod Wrecsam. 1876. Amser maith yn ôl. Ond ddim mor hir yn ôl. Dim felly. Ac mae’r papurau newydd wedi bod yn llawn o’r holl bethau bendigedig sy’n digwydd yma. Dechrau pêl-droed yng Nghymru. Agor mynwent newydd sbon. Mae hynny braidd yn drist mae’n siŵr – ond mae pobl Wrecsam wedi bod yn gyffrous iawn amdano, wedi’r cyfan! Ac yna, arddangosfa hudolus ac anferth. Am bedwar mis. Yng nghanol y dref. Mewn pafiliwn gwych wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar gyfer hyn. Miloedd o luniau. Miloedd o drysorau prin. Corau a chyngherddau. Degau o filoedd o bobl yn dod i Wrecsam o bob man i weld yr arddangosfa. O ac i weld yr Eisteddfod hefyd, wrth gwrs. Oherwydd dyma beth arall. 1876. Y tro cyntaf i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i Wrecsam – er mae hwn yn cynnwys diweddglo braidd yn drist hefyd! Ond wedyn, yr holl ymwelwyr. Y cerddi, y gerddoriaeth a’r caneuon. Wel am sioe! Ac yna, i goroni’r cyfan, bydd gan y dref ei gwasanaeth tram cyntaf erioed – bysus yn cael eu tynnu gan geffylau ar hyd traciau haearn. Rhyfeddod yn wir!

Felly, tybed allwch chi ysgrifennu erthygl papur newydd i ddweud wrth bawb am y flwyddyn hudolus hon, 1876, ar gyfer y rhan hon o Gymru? Efallai am fy syrcas – Syrcas Cyfandirol Mawreddog Pinder. Neu gerdd, efallai. Hyd yn oed cân.

Ond efallai yr hoffech glywed ychydig bach mwy am rai o’r pethau hyn wnaeth ddigwydd. Os felly, mae gennyf ffrindiau fyddai’n gallu helpu.

 

Alfred Davies (26). gwisg pêl droed o’r 1876, yn chwarae gyda phêl-droed hen arddull.

Ie, y cae ras ydyw. Nid oedd yn edrych yn union fel hyn yn 1876 – ond roedd Wrecsam yn y newyddion bryd hynny.  Yma, ychydig flynyddoedd yn ôl yn y fan hyn, daeth criw ohonom ynghyd yma a phenderfynu y dylem gael ein Clwb Cymdeithas Pêl-droed Wrecsam ein hunain.   Mae hynny’n ein gwneud y clwb pêl-droed hynaf yng Nghymru. Un o’r rhai hynaf yn y byd. Ac roeddwn yn falch iawn i chwarae i Wrecsam.   Wrth gwrs, nid oedd y gêm yn union yr un fath bryd hynny ag ydyw nawr.   Timau mwy weithiau.   Un ar bymtheg neu ddwy ar bymtheg ar bob ochr.   A’r pyst gôl wedi eu cysylltu â’i gilydd gan dâp.   Dim rhwyd na dim. Gemau cyfeillgar yn bennaf, y flwyddyn hon – yn erbyn Rhiwabon, Derwyddon Plas Madog, Croesoswallt, Gwirfoddolwyr y Frigâd Dân, Coleg Caer a’u tebyg. 

Yna, eleni, cafodd ein tîm pêl-droed cenedlaethol Cymreig ein hunain – a Chymdeithas Pêl-droed Cymru ei sefydlu.   Cafodd ei wneud yn swyddogol yn y Wynnstay, yn y dref.  Gwych ynde? Ond dychmygwch fy syndod pan wnaethon nhw fy newis i – Alf Davies – i chwarae i Gymru.   Fi a fy ffrind arall o Wrecsam, Ed Cross.   Ac aethom draw i’r Alban i chwarae ein gêm ryngwladol gyntaf.  Iawn, wnaethon nhw ein curo ni’n racs. Colli’r gêm pedwar-dim. Ond byddwn ni’n gwneud yn well y tro nesaf.   A Chlwb Pêl-droed Wrecsam – dyna ydyn ni nawr, yn 1876.   Pwy a ŵyr, efallai rhyw ddiwrnod y byddwn yn ennill cwpan Cymru neu rywbeth hyd yn oed yn well. 

Ond dyna ddigon amdanaf i. Beth amdanoch chi i gyd? Awydd ysgrifennu rhywbeth am ddyddiau cynnar pêl-droed Wrecsam?  Ynglŷn â 1876 yn y Cae Ras. Beth am gân dda i’n hannog ymlaen? Neu lun efallai? Oedden ni’n edrych yn ddoniol bryd hynny yn ein trowsus byr llaes? 

 

Sarah Pritchard (33), mam ac Ethel fach (11).

Nid oedd y fynwent newydd ar Ffordd Rhiwabon wedi’i chwblhau hyd yn oed pan fu fy Ethel fach farw. Un ar ddeg oed yn unig. Y greadures fach. A pham wnaethon nhw ei chymryd oddi arnom ni? Fi yw ei mam, Sarah Pritchard ac mae’n debyg na fyddaf byth yn gwybod. Ond bydd hi yn y Nefoedd nawr ac rwy’n dod yma’n aml i ymweld â’r lle y cafodd ei chladdu. Roedd yn unig ar y dechrau, ond yna cafodd y fynwent ei hagor yn swyddogol. Gorffennaf 1876, tri mis ar ôl i ni golli Ethel Irene. A phan agorodd, daeth Esgob Llanelwy i fendithio’r tir ac roedd yna dorf enfawr yn bresennol ar gyfer y seremoni. Roedd y Maer a’r Faeres yn bresennol ac roeddwn i a fy ngŵr yno hefyd. Yna, roedd yna orymdaith hir ac roeddem i gyd yn canu’r emynau. Mae’r fynwent yn hardd iawn, wedi’i chynllunio fel parc – y cyntaf i ni ei gweld erioed yma yn Wrecsam. Wedi’i chynllunio gan ŵr o’r enw Yeaman Strachan. Mae’n enwog, ydy wir. A min nos, yn nhafarn yr Old Swan ar Stryt yr Abad roedd yna wledd fawr – ar gyfer y gweithwyr i gyd mewn gwirionedd, er ein bod ni yno hefyd. Roedd yna wledd o fwyd a chôr. Ac rŵan, rwy’n meddwl y bydd holl bobl bwysig Wrecsam wedi eu claddu yno, yn ogystal â holl bobl eraill y dref. Bydd Ethel Irene mewn cwmni da, dw i’n meddwl.

Ydych chi’n meddwl fod stori Ethel fach yn drist? Pa fath o salwch difrifol oedd plant yn ei ddal yn y dyddiau hynny nad ydym yn clywed amdanyn nhw heddiw o bosibl? Allwch chi ysgrifennu am sut oedd angladdau Fictoraidd? Neu dynnu llun? Ers 1876, pa bobl adnabyddus sydd wedi eu claddu yn y fynwent newydd?

 

William Low (62), Albanwr barfog

Fy enw yw William Low. Peiriannydd Roedd gennyf gynllun i adeiladu twnnel o dan y Sianel yr holl ffordd i Ffrainc. Ond nid oedd i fod – nid bryd hynny. Nawr, fodd bynnag, yn ogystal â bod yn berchen ar un o lofeydd mawr Wrecsam, rwy’n caru celf hefyd. Felly, roedd gennyf i ac ambell un arall y syniad yma – i ddod ag Arddangosfa Trysorau Celf fawr i Wrecsam. Roeddem wedi adeiladu pafiliwn anferth o fetel a gwydr, y tu ôl i fy Adeilad San Steffan ar Stryt yr Hôb. A gwnaethom ei lenwi gyda mil o luniau enwog, degau o filoedd o drysorau celf amhrisiadwy. Gemwaith oedd yn eiddo i frenhinoedd a breninesau. Porslen hardd. Addurniadau aur ac arian. Gwrthrychau amhrisiadwy o India, Tsienia a Siapan. Hen bethau – fel Bowlen Caergwrle o’r Oes Efydd. Heblaw am y trysorau celf, roedd holl fusnesau Wrecsam yn arddangos y nwyddau a wnaed ganddynt. Ond mae honno’n stori arall.

Roedd yr Arddangosfa yn rhedeg pob dydd am bedwar mis a daeth 80,000 o bobl i’w gweld. Roeddent yn dod o bob man. A phob dydd roedd yna gyngherddau, corau a bandiau gorymdaith. Roedd yn un o’r digwyddiadau mwyaf erioed i gael ei gynnal yn Wrecsam.

Allwch chi wneud model o’r Arddangosfa? Neu dynnu llun map? A fyddech chi’n ysgrifennu erthygl papur newydd neu gerdd? Beth ydym ni’n ei wybod am Fowlen Caergwrle? Allwch chi enwi rhai peintwyr enwog oedd wedi arddangos eu lluniau yn yr Arddangosfa?

 

 

Mrs Elizabeth Williams (53), yn eistedd yn ysgrifennu o dan olau cannwyll ac rydym yn clywed ei llais yn darllen y geiriau wrth iddi eu rhoi ar bapur.

Gorffennaf 1876
Fy annwyl Lynette
Ni allaf wneud hwn yn llythyr maith, ond rydym wedi bod â chymaint o ddiddordeb yng nghwilt James o’r dechrau, mae’n rhaid i chi fod y cyntaf i glywed y newyddion. Rwyf mor gyffrous! Mae’r cwilt ei hun nawr yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa trysorau celf a gynhelir yma yn Wrecsam!
Wel, mewn gwirionedd mae’n cael ei arddangos o fewn anecs diwydiannol yr arddangosfa. Rhif Arddangos 46, gydag arwydd yn datgan ei fod yn Orchudd Bwrdd, a wnaed â llaw y meistr teiliwr milwrol James Williams. Wel James, Lynette!
Mae’n hongian ochr yn ochr â’r holl bethau bendigedig eraill a gynhyrchwyd yn ein tref fendigedig. O’r gwaith haearn, y bragdai, yr adeiladwyr coets a’r seiri olwynion, y tanerdai a’r gwaith lledr, y glofeydd a’r ffatrïoedd brics. Cymaint o rai eraill.
Ac eto, ydych chi’n cofio sut ddechreuodd James ar y cwilt? Yn defnyddio hen ddarnau o ddeunydd dros ben o’r gwisgoedd milwrol sydd wedi ei wneud mor enwog. A’u pwytho nhw i wneud llun o’n hoff stori o’r Beibl – Jona a’r Morfil, wrth gwrs. Yna Arch Noa. Yr holl anifeiliaid mae ein bechgyn yn eu caru gymaint. Ond beth ar wyneb daear wnaeth iddo ddechrau ar y draphont yng Nghefn neu Bont Menai, pwy a ŵyr. Cymerodd ddeng mlynedd iddo. Mwy na phedair mil o ddarnau o ddefnydd. Pob nos am ddeng mlynedd, James yn pwytho tra roeddwn i’n darllen y Beibl iddo – neu Daith y Pererin. Ein hoff amser o’r dydd gyda’n gilydd.
Tybed beth fydd barn pawb amdano. Oni fyddai’n fendigedig os byddai’n ysbrydoli arddull newydd o glytwaith a chwiltio? Pwy a ŵyr pa bethau rhyfedd ac anhygoel y bydd pobl yn eu darlunio ar eu cloriau a’u cwiltiau o’r dyfodol!
Eich annwyl chwaer
Elizabeth

Allwch chi ddylunio cwilt eich hun? Neu dynnu llun a phaentio lluniau am fywyd heddiw neu fannau enwog ble rydych yn byw? Neu ysgrifennu am gwilt James?

 

Parchedig Thomas Lloyd (Estyn), Prif Dderwydd (56).

Wel, ia, mae’n bosibl bod Arddangosfa Trysorau Celf yn bwysig, ond yr Eisteddfod sydd o ddiddordeb mwyaf i mi. Y tro cyntaf i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yma yn Wrecsam. Mae’n anrhydedd o’r mwyaf. Ac yn anrhydedd mawr i mi, y Parchedig Thomas Lloyd, rheithor Plwyf yr Hôb, i wasanaethu fel Prif Dderwydd y digwyddiad. Wrth gwrs, fel Prif Dderwydd, mae gennyf enw arall – fy enw barddol, Yr Estyn. Mae pafiliwn gwych o ganfas wedi’i adeiladu, am gost o £800, i ddal 8,000 o ymwelwyr, ar y caeau wrth Sant Marc. Canu bendigedig a pherfformiadau offerynnol gwych. Yn bersonol, byddai’n well gennyf fwy o berfformiadau yn y Gymraeg, ond roedd y rhaglen gyfan wedi derbyn ymateb da. Wrth gwrs, roedd y diweddglo yn un arbennig o drist. Y wobr i’r gerdd orau yn y Gymraeg. Gwobr o £20 a medal aur, yn ogystal â gorseddu ar y Gadair Farddol eleni. Ac eto, roedd yr enillydd, y bardd o Langollen, Thomas Jones – a oedd yn fwy adnabyddus i’r Cymry gan ei enw Taliesin o Eifion – wedi marw ar yr union ddiwrnod yr anfonodd ei gerdd i gael ei beirniadu. Felly, ar y diwrnod yr oeddwn i ac eraill yn cyflwyno’r wobr, roedd yn rhaid i ni osod lliain du dros y gadair wag a cheisiodd Madam Edith Wynne ganu’r hen gân, Dafydd y Garreg Wen – y Bardd a fu farw. Ond torrodd i lawr yn ei dagrau. Roedd yn llawn dagrau. Yna dechreuodd y gynulleidfa i gyd grio hefyd. Ac Eisteddfod 1876 – cafodd ei hadnabod fel Eisteddfod y Gadair Wag byth ers hynny. A’r Gadair Farddol? Mae’n enwog iawn. Y Gadair Ddu.

A fu yna Eisteddfod arall erioed gyda Chadair Farddol wag? Allwn ni ysgrifennu stori neu gerdd am Taliesin o Eifion? Ble mae Cadair Farddol 1876 nawr? Allwn ni greu model o Gadair Farddol 1876? Allwn ni ddod o hyd i ble yn Wrecsam y cynhaliwyd yr Eisteddfod yn 1876?

 

Mrs Minnie Edisbury (34).

Fy ngŵr James – James Edisbury – yw’r fferyllydd pwysicaf ar draws Wrecsam. Neu felly mae o’n dweud wrthyf, pryn bynnag. Mae ei siop ar y Stryd Fawr, ger Neuadd y Dref, felly mae’n debyg ei fod yn iawn. Yn rhif tri. Mae’n rhaid ei fod yn bwysig oherwydd ei fod yn dal yno! Mae yna siopau braf iawn ar y Stryd Fawr. A dyma ni nawr, yn y tŷ mawr braf ar Ffordd Grosvenor gyda’n pedair merch a’n hogyn bach. Mae wrth ei fodd yn ymweld â’r siop. Mae’n dweud ei bod yn edrych fel siop fferins, bendith arno. Yr holl silffoedd a chypyrddau. Rhesi a rhesi o jariau. Tabledi ac eli, gel, a meddyginiaethau. Olew paraffin a cerosin. Sebon croen ac anadlwyr. Peli camffor a losin y frest. Persawr. Brwshys ar gyfer ewinedd, dannedd a gwallt. Bellach, mae gan James ei stondin ei hun yn yr Arddangosfa Trysorau Celf – yn yr Anecs Diwydiannol. Ac yn gwneud busnes mor dda gyda’r holl ymwelwyr yn y dref. Yn arbennig ar gyfer yr achlysur, mae wedi bod yn gwerthu Pomâd Arddangosfa Wrecsam – olew gwallt i ddynion. Mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Ac mae’r ffatri poteli wedi gwneud jariau arbennig iawn, cofroddion o’r Arddangosfa, wrth gwrs. Ond yn bennaf? Yr hyn mae wedi gwerthu mwyaf arno yw ein Saws Wrecsam enwog. Fel mae’n dweud, mae’n flasus ac yn dda ar gyfer treuliad rhywun. Rysait gyfrinachol wrth gwrs – ac nid oes gan unrhyw un, unrhyw un yn y byd y rysáit heblaw fy James i.

Wel, tybed allwch chi weithio allan beth yw’r rysáit? Pa bethau fyddai’n gallu bod yn dda ar gyfer ein treuliad ac yn flasus mewn relish? A sut ydych chi’n meddwl y byddai fferyllfa Fictoraidd yn edrych – allwch chi ei dychmygu? Allwch chi ysgrifennu cân fach am Saws Wrecsam? A beth am y siopau eraill ar y Stryd Fawr – beth allech chi ei brynu yn y dref?

 

Miss Elizabeth Davies (33), Pennaeth Ysgol.

Fy enw yw Miss Davies ac rwyf wedi bod yn Bennaeth yma yn Ysgol y Bers ers tro. Mae’n gryn gyfrifoldeb gyda’r holl blant hyn i feddwl amdanyn nhw. Tair ysgol mewn gwirionedd. Un i’r bechgyn. Un i’r merched. Ac yna’r ysgol newydd i fabanod. Nid yw’r flwyddyn hon wedi bod yn hawdd chwaith. Yr holl gnocio a’r taro, adeiladu’r neuadd ar gyfer y rhai bach. Yna nid oedd y desgiau newydd wedi cyrraedd am wythnosau ar ôl pryd y dylent gyrraedd. Y peiriant gwnïo i’r merched, hefyd. Yna, cymaint o’r plant yn colli’r ysgol oherwydd salwch – a’r athrawon hefyd. Y Dwymyn Goch, ydych chi’n gwybod? Mae wedi bod yn anodd. Ond rwy’n bwrw ymlaen – dysgu Gramadeg a Thraethawd, Rhifyddeg a Daearyddiaeth. Ac ar gyfer un o’n gwersi, cytunais y gallai rhai o’r plant hŷn gael taith i Wrecsam i weld yr Arddangosfa Trysorau Celf yno. Cymaint o bethau braf i’w gweld ac roeddent i gyd wedi mwynhau mynd ar y daith gyda’i gilydd o Johnstown – ac roedd y gyrrwr hyd yn oed wedi gadael iddynt fwydo’r ceffyl! Ond roedd y dref mor brysur. Cannoedd o bobl yn cyrraedd ar y trenau. Roedd hynny yn wers ddaearyddiaeth yn ei hun, dysgu am yr holl lefydd ble roedd y peiriannau stêm wedi dod. Ac mewn ychydig fisoedd bydd gennym ein gwasanaeth tram cyntaf yn rhedeg o Johnstown i Wrecsam – maent eisoes wedi gosod y cledrau. O, yr oes fendigedig hon o deithio a dysgu. Maent yn dweud ei fod yn ehangu’r meddwl, rydych yn gwybod.

Beth allwch chi ei ddweud wrthyf am y Bers? Pam ei fod mor boblogaidd? Ac ydych chi’n meddwl y byddech wedi hoffi dod i fy ysgol? A fyddai wedi bod yn wahanol iawn o’ch un chi? Sut fyddech chi wedi cyrraedd yr ysgol yn y dyddiau hynny? Sut oedd cludiant yn wahanol bryd hynny?